Mae Cymdeithas Goed Prifysgol Abertawe’n arwain y ffordd at ddyfodol gwyrddach drwy lansio ei menter Plannu Coed Graddio, a ysbrydolwyd gan ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd a basiwyd gan lywodraeth Ynysoedd Philippines yn 2019. 

Gan gymryd deilen allan o lyfr llywodraeth Ynysoedd Philippines, lle mae’n rhaid i fyfyrwyr blannu 10 coeden cyn graddio yn ôl y gyfraith, felly cynigiodd llywydd y gymdeithas Jean-Louis Button raglen debyg i Uwch-dîm Arweinyddiaeth y Brifysgol.  Gwreiddiwyd y syniad yn gyflym iawn, ac mae’r rhaglen beilot newydd gwblhau ei cham cyntaf. 

O dan y fenter hon, bydd pob un o raddedigion 2024 o Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yn derbyn coeden sydd wedi’i phlannu yn ei enw. Ceir tystysgrif gyda lleoliad GPS eu coeden, felly bydd myfyrwyr yn gadael etifeddiaeth ddiriaethol o’u hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda dros 300 o goed wedi’u plannu i fywiogi  coetir yn Townhill, mae’r fenter eisoes wedi creu effaith sylweddol.   

Ond nid yw’r fenter yn dod i ben gyda phlannu coed. Mae’r Gymdeithas Goed yn ymrwymedig i ofalu’n barhaus am y coed ifanc sydd newydd gael eu plannu, gan sicrhau eu twf a’u hirhoedledd. Bydd unrhyw goed nad ydynt yn goroesi’n cael eu hamnewid, gan sicrhau cynaliadwyedd y cynllun peilot am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r Gymdeithas Goed wedi derbyn cefnogaeth sawl sefydliad er mwyn gwneud y fenter hon yn llwyddiant, dyma Jean-Louis Button yn esbonio: 

“Gwnaeth Grant Cymunedol Prifysgol Abertawe ein helpu i brynu coed a chyfarpar er mwyn gwireddu’r prosiect, ac rydym wedi cael llawer o gymorth gan Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a’r cwmni cosmetig LUSH.” 

“Heb y gefnogaeth hon a’r rhoddion hael, ni fydden wedi gallu gwneud yr hyn rydym wedi’i gyflawni, gan nad ydym yn codi tâl ar ein haelodau i fod yn rhan o’r clwb!” 

Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r Gymdeithas Goed yn gobeithio ehangu’r rhaglen i gynnwys holl raddedigion y dyfodol, gan ledaenu’r neges o gyfrifoldeb amgylcheddol a chynaliadwyedd ledled cymuned y Brifysgol. Mae’r fenter hon yn ychwanegu dimensiwn unigryw ac ystyrlon i’r dathliadau graddio, ond mae hefyd yn cyfrannu at wella ein planed a lles cenedlaethau’r dyfodol. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas Goed drwy ei dilyn ar Instagram.

Gallwch hefyd ymweld â’i gwefan i ddysgu sut gallwch gymryd rhan yn y prosiectau sydd ar ddod ganddynt.