Mae bleser gennym roi gwybod i chi ein bod yn diweddaru ein cynllun llogi beic poblogaidd mis nesaf!

Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe’n lansio ddydd Llun, Awst 12.

Bydd hybiau yn cael eu lleoli fel o’r blaen yn yr ardaloedd:

  • Campws Singleton
  • Campws y Bae
  • Parcio a Theithio Ffordd Fabian
  • Knab Rock, Y Mwmbwls
  • Ystumllwynarth, Y Mwmbwls

Bydd yr hybiau a leolwyd yn flaenorol yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ac Amgueddfa Glannau Abertawe yn cael eu disodli, gyda dau safle cyfleus newydd i’w cyhoeddi cyn bo hir.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Byddwch yn sylwi lleihad yn y nifer o feiciau sydd ar gael o 22 Gorffennaf wrth i’r gwasanaeth gael ei leihau’n raddol, ac o 31 Gorffennaf bydd cyfnod o dua pythefnos heb feiciau wrth i newidiadau i’r seilwaith fynd yn eu blaen. Ni fydd y beiciau ar gael i’w defnyddio yn ystod y cyfnod hwn oherwydd bydd y gorsafoedd docio’n cael eu disodli. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni ymgymryd â’r newidiadau pwysig hyn.

O Awst 12fed, byddwch yn gallu llogi’r beiciau newydd fel o’r blaen, trwy ap Next Bike.

Tariff Newydd

  • Aelodaeth beiciau campws (ar gyfer myfyrwyr a staff sydd wedi cofrestru â chyfrif @abertawe.ac.uk yn unig): £10 y flwyddyn – 30 munud gyntaf am ddim, yna £0.50 / 20 munud. Uchafswm dyddiol o £5.
  • Aelodaeth fisol reolaidd: £12 y mis – 30 munud gyntaf am ddim, yna £2 / 20 munud. Uchafswm dyddiol o £12.
  • Aelodaeth flynyddol reolaidd: £78 y flwyddyn – 30 munud gyntaf am ddim, yna £2 /20 munud. Uchafswm dyddiol o £12.
  • Talu wrth Fynd: £2/20 munud. Uchafswm dyddiol o £12.
*Bydd aelodaeth cwsmeriaid presennol yn parhau tan eu dyddiad dod i ben ac ni fyddant yn adnewyddu’n awtomatig. Bydd yn ofynnol i gwsmeriaid gychwyn aelodaeth newydd unwaith y bydd yr un blaenorol wedi dod i ben. Codir y tariff newydd ar aelodaeth newydd.

Hoffwn ymestyn diolch o waelod calon i Santander, a phawb arall oedd wedi’n helpu i ddod â’r cynllun hwn i’r ddinas ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gam nesaf y datblygiad gan weithio â’n partneriaid yn Nextbike i hyrwyddo beicio yn Abertawe!