Mae’r neges ganlynol ar gyfer myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ffurfiol yn ystod cyfnod asesu mis Awst 2024 yn unig.

Os na fyddi di’n sefyll arholiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn, gelli di anwybyddu’r e-bost hwn.

Mae fersiwn bersonol o’th amserlen arholiadau mis Awst 2024 bellach ar gael drwy’r fewnrwyd.

 

I weld dy amserlen:

1. Mewngofnoda i’th gyfrif MyUni.

2. Dewisa’r eicon ‘Mewnrwyd’.Dylai dolen i’th amserlen arholiadau fod ar gael ar dy broffil Cofnod Myfyriwr (o dan dy ffotograff)

 

Darllena dy amserlen yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr holl arholiadau rwyt ti’n disgwyl eu sefyll wedi’u rhestru.

Sylwch, cynhelir asesiadau ar y campws mewn lleoliadau ar Gampws y Bae.

Os oes gennyt unrhyw anawsterau gweld dy amserlen arholiadau neu os wyt ti’n credu bod dy amserlen yn anghywir, cysyllta â’r Swyddfa Arholiadau cyn gynted â phosib. Bydd aelod o’r tîm yn gallu dy gynorthwyo.

Llety

Mae llety Campws y Bae ar gael i fyfyrwyr archebu’r haf hwn.​

Amgylchiadau Esgusodol

Os nad ydych yn gallu sefyll asesiad (a ohiriwyd neu’n atodol) yn ystod cyfnod asesu mis Awst, ni fyddwch yn gallu gohirio’r asesiad. Sylwer, fodd bynnag, y byddai’n fanteisiol i chi hysbysu’ch Ysgol/Cyfadran am eich amgylchiadau esgusodol cyn gynted â phosib o hyd, cyn pob asesiad y byddai’r amgylchiadau esgusodol yn effeithio arno neu o fewn 5 niwrnod gwaith iddo gael ei gynnal gan y gellir cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Bwrdd Arholi ym mis Medi.

Bydd eich Ysgol/Cyfadran yn darparu ffurflen ddatgan i chi ei chwblhau a’i dychwelyd i’r Ysgol/Cyfadran erbyn y dyddiad a nodir.

Ni fyddwch yn derbyn canlyniad yn syth ar ôl i chi gyflwyno ffurflen ddatgan, y Bwrdd Arholi fydd yn penderfynu ar eich cynnydd/dyfarniad ym mis Medi, ar ôl iddo ystyried eich amgylchiadau esgusodol ac yn unol â’ch perfformiad academaidd cyffredinol.

    Yn benodol, sylwer:

    Os ydych yn bwriadu datgan amgylchiadau esgusodol ar gyfer mwy nag un arholiad/asesiad, rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen ddatgan i’ch Ysgol/Cyfadran o fewn pum niwrnod gwaith i bob arholiad/asesiad amgen yr effeithiwyd arno ac nid o fewn pum niwrnod gwaith i’r arholiad/asesiad amgen olaf yr effeithiwyd arno.

     

    Efallai y bydd rhaid i chi, felly, gwblhau mwy nag un ffurflen os yw eich amgylchiadau esgusodol wedi effeithio ar arholiadau/asesiadau amgen sydd mwy na phum niwrnod gwaith ar wahân i’w gilydd.Peidiwch ag aros tan fod gennych dystiolaeth atodol cyn i chi gynghori’ch Ysgol/Cyfadran am eich amgylchiadau esgusodol.

    Rhaid cyflwyno’r ffurflen ddatgan cyn yr arholiad amgen neu o fewn pum niwrnod gwaith iddo.

    • Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr ymgyfarwyddo â’r cyfarwyddiadau canlynol cyn sefyll arholiadau ar y safle:
    • Mae’n ofynnol i ti ddod â phrawf adnabod i’th holl arholiadau, o ddewis, dy gerdyn adnabod myfyriwr. Fodd bynnag, bydd mathau eraill o brawf adnabod â llun a gydnabyddir yn swyddogol yn cael eu derbyn.
    • Dylai dy brawf adnabod gael ei ddangos ar y ddesg drwy gydol yr arholiad. Os na fyddi di’n dod â phrawf adnabod, mae’n bosib na chaiff dy waith ei farcio.
    • Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod â deunyddiau nad ydynt wedi’u hawdurdodi, megis llyfrau, nodiadau neu unrhyw gymorth arall i mewn i’r ystafell arholi oni bai bod y cyfarwyddiadau ar y papur arholiad yn dweud eu bod yn ganiataol.
    • Os bydd unrhyw fyfyriwr sy’n gwisgo rhywbeth ar ei ben (gan gynnwys helmed beic modur, het wlanog, gorchudd pen crefyddol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain), gofynnir i’r myfyriwr naill ai ei dynnu neu ddangos nad yw’n cuddio teclynnau clust/dyfeisiau gwrando.
    • Rhaid cludo unrhyw ddeunyddiau ysgrifennu mae’r myfyriwr yn dod â nhw i’r ystafell arholi mewn cas pensiliau clir a thryloyw neu ‘boced bolythen’ y gellir ei harchwilio wrth i’r myfyriwr ddod i mewn i’r ystafell.
    • Ni chaniateir ffonau symudol, watsiau clyfar neu unrhyw ddyfeisiau electronig eraill nad ydynt wedi’u hawdurdodi yn yr ystafelloedd arholi neu unrhyw ystafelloedd eraill y gall ymgeiswyr fynd iddynt, toiledau er enghraifft. Os bydd myfyriwr yn dod â ffôn symudol neu unrhyw ddyfais electronig arall heb ei hawdurdodi i’r ystafell arholi, caiff y Arweinydd Uniondeb Academaidd y Brifysgol ei hysbysu am hyn.
    • Ni chaniateir dod â bwyd i’r ystafell arholi.
    • Ni chaniateir i ymgeiswyr gyfathrebu â’i gilydd mewn unrhyw ffordd ar ôl dod i mewn i’r ystafell arholi.
    • Ni chaniateir i unrhyw ymgeisydd fynd i mewn i’r ystafell fwy na 30 munud ar ôl dechrau’r arholiad, ac ni all unrhyw ymgeisydd adael yr ystafell tan o leiaf 45 munud ar ôl dechrau’r arholiad.
    • Ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio eu cyfrifianellau eu hunain oni bai bod y cyfarwyddiadau ar y papur arholiad yn nodi’n glir bod hyn yn ganiataol. Darperir cyfrifianellau’r Brifysgol yn yr ystafell arholi pan nodir hyn ar y cyfarwyddiadau.
    • Ni chaniateir geiriaduron Saesneg neu iaith dramor oni bai bod y cyfarwyddiadau ar y papur arholiad yn nodi’n glir eu bod yn ganiataol. Bydd geiriaduron Saesneg a Saesneg/Cymraeg ar gael i ymgeiswyr eu defnyddio pan fydd y cyfarwyddiadau yn nodi hyn.
    • Dylai ymgeiswyr adrodd am unrhyw wallau/ymholiadau ar bapurau arholiad wrth y goruchwylydd. Ni chaiff gwallau/ymholiadau eu hateb fel arfer yn ystod yr arholiad ac ymdrinnir â nhw yn ystod y broses farcio.
    • Os bydd goruchwyliwr yn gweld unrhyw ymgeisydd yn tarfu ar yr arholiad neu’n gweithredu mewn ffordd sy’n groes i reoliad, e.e. cyfathrebu â myfyriwr arall, caiff yr ymgeisydd hwnnw ei rybuddio y tro cyntaf.  Os bydd yr ymddygiad yn parhau, gorfodir yr ymgeisydd i adael yr ystafell arholi a hysbysir y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd am y digwyddiad.
    • Ni chaiff unrhyw ymgeisydd adael yr ystafell arholi yn ystod 15 munud olaf arholiad. Gall symud yn y cyfnod hwn darfu ar ymgeiswyr eraill sydd yn yr ystafell arholi o hyd.
    • Ar ddiwedd yr arholiad, dylai ymgeiswyr aros yn dawel yn eu seddi nes bod yr holl sgriptiau wedi’u casglu a nes bod y Prif Oruchwyliwr yn datgan bod caniatâd i adael yr ystafell.