Gwasanaethau bws am ddim yn Abertawe yr haf hwn!
Mae ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Dyma’r ardal yn cael ei ffinio gan Gasllwchwr (Ship & Castle), Pontarddulais (yr Orsaf Drenau), Garnswllt, Clydach (Mynwent Coed Gwilym), Lon-lâs (Bowen Arms) a Phort Tennant (Bevans Row) felly mae’n cynnwys lleoedd fel Gorseinon, Pontarddulais, Gŵyr a Threforys.
Mae’r cynnig bysus am ddim yn berthnasol bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun o ddydd Gwener 26 Gorffennaf i ddydd Llun 26 Awst. Mae’r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am wyliau’r haf. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.
Yn anffodus, mae Campws y Bae o fewn ffiniau Castell-nedd a Phort Talbot. Nid yw’r cynllun ‘Bysus am Ddim Abertawe’ yn ymestyn mor bell â hyn.
Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin.