Straeon Llwyddiant Graddedigion Abertawe – yr wythnos diwethaf roedden ni’n falch o ddathlu cyflawniadau dosbarth graddedigion 2024 mewn wythnos orlawn o seremonïau a gynhaliwyd yn Arena Abertawe. Yn ystod y dathliadau, clywon ni straeon ysbrydoledig a diddorol cynifer o’n myfyrwyr, sydd wedi dod o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol i astudio yn Abertawe. Dyma deithiau gwahanol iawn i lwyddiant academaidd dau o’r graddedigion hyn, Dr Verena Tay a Carrie Power.

Treftadaeth a rennir mam a merch o Singapore ym Mhrifysgol Abertawe

Mae stori anhygoel am gysylltiadau rhwng-genedlaethol rhwng Prifysgol Abertawe a Singapore wedi cyrraedd pennod hyfryd newydd, wrth i ferch raddio o’r un brifysgol â’i mam 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ym 1949, daeth y myfyriwr o Singapore, Lim Poh Luan, a oedd yn cael ei hadnabod fel Rose gan ei ffrindiau o Gymru, i Brifysgol Abertawe, a oedd yn cael ei galw’n Goleg Prifysgol Abertawe bryd hynny, i astudio arweinyddiaeth ieuenctid o dan gyfarwyddyd Jeffrey Jones.

Pan ddychwelodd hi i Singapore, daeth hi’n athrawes ac yn brifathrawes ysgol cyn iddi ymuno â staff y Weinyddiaeth Addysg. Ym 1954, priododd hi a chymerodd hi gyfenw ei gŵr, Tay.

Nawr, ei merch, Verena Tay, 58 oed, sy’n awdur adnabyddus, yn adroddwr straeon, yn ymarferydd theatr ac yn athrawes llais, yw’r ail aelod o’r teulu i raddio o’r Brifysgol.

Students smiling in gown
Swansea graduate Carrie Power

O frwydro i'r ystafell ddosbarth:Taith ysbrydoledig un o raddedigion Abertawe

Mae cyn-feddyg gyda’r Fyddin wedi graddio o Brifysgol Abertawe ar ôl gadael yr ysgol heb Safon Uwch, ac erbyn hyn bydd yn hyfforddi i fod yn athrawes, gan annog pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion.

I Carrie Power, sy’n 36 oed ac yn hanu o’r ffin rhwng Hampshire a Wiltshire, nid oedd y Brifysgol yn rhywbeth y gwnaeth hi feddwl rhyw lawer amdano pan oedd hi yn yr ysgol.

“Ni chefais fy magu i ddeall beth oedd ystyr addysg uwch; Nid oeddwn yn gwybod bod benthyciadau i fyfyrwyr yn bodoli,” esboniodd Carrie.

“Ni chafodd y syniad o brifysgol byth ei drafod yn fy nhŷ i, gan nad oedd neb yn fy nheulu erioed wedi bod.  Felly gadewais yr ysgol heb wybod beth oedd fy holl opsiynau.”

Ymunodd Carrie â’r Fyddin Brydeinig yn 19 oed, gan hyfforddi fel Mecanig Cerbydau.