Wyt ti’n barod am fywyd ar ôl y brifysgol? Os wyt ti’n camu i fyd cyflogaeth neu’n ystyried parhau â’th astudiaethau gyda ni, dyma’r amser perffaith i ti sicrhau bod gen ti bopeth yn ei le am ddyfodol llwyddiannus. Y newyddion da yw bod gennym ni bopeth y mae ei angen arnat ti!
Llwybr Carlam Ôl-raddedig
Am barhau â’th daith fel myfyriwr yma yn Abertawe? Dewisa radd Meistr sydd addas iti ac ymuno â’n cymuned ôl-raddedig fywiog a deinamig. Byddi di’n rhoi hwb i’th ragolygon gyrfa ac yn cael y cyfle i gysylltu â darpar gyflogwyr. Mae’n broses ymgeisio gyflym a hwylus a byddi di’n cael penderfyniad gennym ni o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Cyflawna dy botensial gyda Llwybr Carlam Ôl-raddedig.
Swansea Employability Academy (SEA)’s Graduate Support Programme
Wyddet ti y gelli di, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, gael mynediad at gymorth gydol oes o ran gyrfaoedd a chyflogadwyedd? Rydyn ni yma i’th gefnogi di i ddod o hyd i yrfaoedd boddhaus a gwobrwyol i raddedigion, hyd yn oed ar ôl graddio!
Os nad wyt ti’n siŵr am dy gamau nesaf, a hoffet ti gael cymorth i arddangos dy sgiliau a’th briodweddau, neu os nad wyt ti’n gwybod ble i ddechrau chwilio am rolau i raddedigion, rydym yma iti!
Mae gennym dîm arbennig sy’n cynnig cyngor unigol, offer ac adnoddau arbenigol i’th helpu gyda’r broses recriwtio, a llu o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Yn ogystal â chyfleoedd interniaeth a ariennir i gael profiad ymarferol a bwrsariaethau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a chostau sy’n gysylltiedig ã chyflogaeth megis teithio i gyfweliadau.
Hyd yn oed os wyt ti’n ddigon ffodus dy fod eisoes wedi sicrhau rôl ar ôl graddio, os wyt ti mewn sefyllfa yn ddiweddarach lle mae angen cymorth arnat, byddwn yma i ti o hyd. Rydyn ni’n cynnig cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd parhaus i’n cymuned o gyn-fyfyrwyr, ni waeth pryd gwnest ti raddio.
Mae dy rwydwaith i gyn-fyfyrwyr a swyddfa benodol ar gyfer cyn-fyfyrwyr yma i’th helpu a’th gefnogi am byth, dyma sut!
Fel myfyriwr graddedig o Abertawe, bydd gennyt fynediad i’r pethau canlynol:
1) Mae Swansea Uni Connect, platfform cyfryngau cymdeithasol unigryw ar gyfer graddedigion Abertawe, yn lle i ganfod ffrindiau a chael ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i’th helpu di ar bob cam o’th daith.
2). Rhaglen Cymorth i Raddedigion, o interniaethau, i fwrsariaethau, hyfforddiant a mwy, byddwn yn sicrhau dy fod yn cael cymorth unigol wrth iti symud drwy’r cyfnod hwn o newid.
3). Cymorth cyflogaeth/gyrfaoedd drwy’r Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion, gan roi sgiliau, cyfleoedd am swyddi, cyngor ar yrfaoedd a chymorth ymarferol gan ein harbenigwyr.
4). Manteision i gyn-fyfyrwyr! Gelli di elwa o ostyngiadau mewn gwestai lleol ac aelodaeth o’r gampfa, a llawer mwy.
Arolwg Hynt Graddedigion
Mae’r Arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg statudol, cenedlaethol a reolir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Dyma’r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU ac mae’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion. Yn fras, dyma dy gyfle i fod yn rhan o ddarlun mawr addysg! Byddi di’n cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg tua 15 mis ar ôl i ti gwblhau dy astudiaethau.
Cadwch Mewn Cysylltiad
Cadwch eich manylion yn gyfoes i sicrhau nad ydych yn colli’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf o Brifysgol Abertawe.
Diweddarwch eich manylion cyswllt!
Gwna’r gorau o’r rhwydwaith i gyn-fyfyrwyr! Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau neu bryderon cysyllta â ni.