Rydyn ni’n Brifysgol gynhwysol a chroesawgar, ac rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi lles ein myfyrwyr a’n staff. Oeddet ti’n gwybod bod amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i bawb sydd eu hangen?

Ein Gwasanaeth Gwrando

Caiff y Gwasanaeth Gwrando ei gynnal gan dîm profiadol Ffydd@BywydCampws ac mae ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff, ni waeth beth yw eu ffydd, eu diwylliant, eu rhyw neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae’n cynnig clust i wrando i unrhyw un sydd ei hangen ac mae’n hollol gyfrinachol.

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad, cer i wefan MyUni

Togetherall

Mae Togetherall yn blatfform lles digidol sydd ar gael am ddim ddydd a nos. Cofrestra gan ddefnyddio dy gyfeiriad e-bost ym Mhrifysgol Abertawe i gael cymorth ar-lein yn ddienw gan glinigwyr hyfforddedig, yn ogystal ag amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol.

Rhoi gwybod am aflonyddu

Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch at bob math o wahaniaethu a does dim lle ar ein campysau ar gyfer hiliaeth, trais nac aflonyddu. Os wyt ti’n teimlo bod rhywun yn aflonyddu arnat ti neu os hoffet ti roi gwybod am ddigwyddiad, gelli di gysylltu ag un o Ymgynghorwyr Aflonyddu hyfforddedig y Brifysgol neu defnyddia ein ffurflen. Mae manylion am y ddau beth ar gael yn ein Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio.

Mae Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gweithredu fel canolfan trydydd parti i roi gwybod am droseddau casineb, ac mae yno i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’n holl fyfyrwyr drwy gydol eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.

 Mae rhagor o wybodaeth ynghylch rhoi gwybod am drosedd casineb ar dudalennau gwe Cydraddoldebau@BywydCampws

Wyt ti wedi lawrlwytho Safezone?

Adnoddau ychwanegol

I gael y rhestr lawn o’r gwasanaethau cymorth a lles sydd ar gael i ti, cer i dudalennau gwe MyUni