Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau gwobr y Faner Werdd sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn rheoli a datblygu tiroedd.

Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw’r dyfarniad rhyngwladol am ansawdd parciau a mannau awyr agored ac mae’n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu a chynnal mannau gwyrdd cynaliadwy sy’n ddiogel, yn groesawgar ac yn agored i bawb.

Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr a staff, mae tîm Ystadau a Gwasanaethau Campws y Brifysgol wedi bod yn gweithio’n galed i ddod â bywyd newydd i fannau awyr agored ar Gampws y Bae a Champws Singleton.

Mae’r ymdrechion hyn wedi cynnwys cynlluniau plannu helaeth wedi’u dylunio i gyfoethogi bioamrywiaeth y campysau, creu mannau awyr agored newydd i ymlacio ac astudio, a gosod murluniau a gwaith celf godidog sy’n dathlu hanes unigryw’r Brifysgol.

Yn ogystal, mae sawl adeilad treftadaeth ar y campws yn y broses o gael ei adnewyddu’n ofalus.

Mae’r prosiect parhaus hwn i wella’r amgylchedd awyr agored wedi gofyn am gydweithrediad agos rhwng y timau Tiroedd, Gweithrediadau Campws, Prosiectau a Chynaliadwyedd, sy’n angerddol am gynaliadwyedd a bod yn gadarnhaol o ran natur. 

Gallwch ddarganfod mwy am ein tiroedd arobryn