Mae desg Llyfrgell MyUni ar Gampws Parc Singleton wedi symud i ardal flaen cyntedd adeilad y llyfrgell. Wrth i chi gerdded i mewn i’r llyfrgell, bydd tîm Llyfrgell MyUni ar yr ochr dde, gan eich croesawu i’r adeilad a’ch cynorthwyo ym mha ffordd bynnag y gallant.

Mae arwyddion ychwanegol wedi’u gosod i’ch helpu chi.

Mae’r symud hwn wedi galluogi diweddariadau cyffrous ar gyfer y dyfodol a newidiadau i’r cyntedd, gan ei wneud yn bwynt canolog ar gyfer eich anghenion yn y llyfrgell!