Mae fersiwn gychwynnol o’th amserlen ar gyfer y bloc addysgu nesaf ar gael i’w gweld nawr. Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i ti gael golwg cynnar ar dy amserlen addysgu ac rydym wedi ymdrechu i wneud hynny.
Sylwer y gall dy amserlen newid a gallai fod diwygiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf ac yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf o addysgu.
O ganlyniad i hyn, hoffem ofyn i bob myfyriwr fod yn ofalus wrth wneud unrhyw gynlluniau ar sail yr amserlen gychwynnol hon. Rydym yn dy annog i wirio dy amserlen yn barhaus am unrhyw ddiwygiadau pellach wrth i ni symud ymlaen i’r semester nesaf.
Rydym am achub ar y cyfle hwn i amlygu lefel yr ystyriaeth sy’n rhan o greu amserlen sy’n diwallu anghenion amrywiol ein cymuned ym Mhrifysgol Abertawe. Mae llawer o ffactorau’n dylanwadu ar greu amserlen a newidiadau dilynol:
- Nifer y myfyrwyr: Gwneud yn siŵr bod nifer priodol o fyfyrwyr ym mhob dosbarth i wella dy brofiad addysgu.
- Lleoedd addysgu: Cyd-weddu dosbarthiadau â nifer addas o fyfyrwyr â mannau addysgu addas i wella dy brofiad dysgu.
- Gofynion hygyrchedd: Diwallu anghenion hygyrchedd ein myfyrwyr a’n staff.
- Adnoddau TG a chyfarpar arbenigol: Gwneud yn siŵr bod gennyt ti a dy ddarlithydd fynediad at dechnoleg a chyfarpar angenrheidiol sydd o’r radd flaenaf i gyfoethogi dy brofiad addysgu.
- Manteision o ran dysgu ac addysgu hyblyg: Caniatáu dethol, newid a symud modiwlau i ddiwallu dy anghenion fel myfyriwr, gan bersonoli dy brofiad dysgu.
Fel rwyt ti’n deall, mae angen ystyried a chydlynu’r ffactorau hyn yn ofalus a gall hyn arwain at addasiadau angenrheidiol wrth i ni nesáu at y bloc addysgu newydd.
Rydym yn gwerthfawrogi dy ddealltwriaeth, dy amynedd a’th gydweithrediad. Mae dechrau’r bloc addysgu newydd yn gyfnod llawn cyffro ac rydym yn dymuno’r gorau i ti.
Os oes gennyt ti ymholiadau, cysyllta â thîm Cymorth Myfyrwyr dy Gyfadran.