Mae’r podlediad yn dathlu myfyrwyr Prifysgol Abertawe o bob cwr o’r byd, gan daflu goleuni ar eu straeon unigryw. Dere i glywed sut maen nhw’n gallu dy ysbrydoli di i gyrraedd dy nodau!

Ar ôl cyhoeddi rhai penodau eisoes, allwn ni ddim aros i rannu rhagor o straeon anhygoel â thi. Os nad wyt ti wedi gwrando ar ein podlediad eto, rho gynnig arno!

Mae’r bennod gyntaf yn dilyn taith anhygoel Oluwaseun Ayodeji Osowobi o Nigeria, sy’n ymgyrchydd, yn hyrwyddwr hawliau ac yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae Oluwaseun yn Arweinydd Sefydliad Obama yn Affrica ac yn enillydd byd-eang gwobr Study UK y British Council ar gyfer Gweithredu Cymdeithasol 2023, sy’n eirioli dros hawliau a diogelwch menywod, gan weithio i leihau trais ar sail rhywedd. Gelli di glywed am ei chenhadaeth a sut mae’n llwyddo i greu newid yn y byd.

Mae’r ail bennod yn cyflwyno Therese, a ddaeth i astudio yn y DU o’r Ynysoedd Philippines. Mae’r bennod yn archwilio’r ffyrdd y llwyddodd hi i oresgyn unigrwydd a sut mae cymorth iechyd meddwl wedi ei helpu i addasu i’r amgylchedd newydd.

Gwranda ar benodau llawn ar Spotify neu Apple, neu gelli di wylio’r recordiad ar YouTube hyd yn oed – dewisa dy hoff sianel a gwranda… bydd pennod newydd bob yn ail ddydd Gwener!