Dros y misoedd diwethaf a dros yr haf, rydym wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau ar draws Campws Singleton a Champws y Bae, gan gynnwys labordai newydd, ystafell ficrodon newydd yn Fulton, gwaith toeau a gwelliannau ffyrdd a llwybrau troed.

Er mwyn helpu’r Brifysgol i ddod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2035, rydym yn parhau i osod goleuadau LED yn ein hadeiladau fel rhan o brosiect uwchraddio LED treigl.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar wella eich amgylchedd awyr agored. Rydym wedi cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol i risiau Lawnt Fulton, ac wedi gwneud gwelliannau i ardal Pwll Vivian, gan ei gwneud yn ardal hygyrch sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i bob myfyriwr ei mwynhau.

Rydym yn falch iawn o’n cae 3g newydd ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Cynhaliodd y cyfleuster o’r radd flaenaf nifer o ddigwyddiadau Varsity eleni a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn gan roi’r cyfle i chi gyflawni llwyddiant chwaraeon BUCS.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn parhau i wella ffyrdd a llwybrau troed o amgylch Singleton, gan gynnwys ailfodelu cyffordd ILS 1 i ledu’r ffordd a gwella hygyrchedd cerddwyr yn yr ardal gyda chroesfannau sebra newydd a llwybrau cerdded wedi’u hailwynebu.

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw’r uwchraddiadau a’r datblygiadau hanfodol hyn yn effeithio ar eich profiad campws. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am unrhyw weithgaredd datblygu campws, gallwch gysylltu â ni yn campusdevelopment@swansea.ac.uk