Beth sy’n newydd ar y campws?
Dros y misoedd diweddar a thros yr haf, rydym wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau i’n campysau, gan gynnwys adnewyddu labordai, cyflwyno ystafell ficrodon yn Nhŷ Fulton a ffreutur newydd sbon ym Mharc Dewi Sant, ynghyd â gwelliannau i ffyrdd a llwybrau cerdded.
Cafwyd rhai newidiadau yn Llyfrgell Singleton hefyd. Mae dy ddesg Llyfrgell MyUni ar Gampws Parc Singleton wedi symud i ardal flaen cyntedd adeilad y llyfrgell. Wrth i ti gerdded i mewn i’r llyfrgell, bydd tîm Llyfrgell MyUni ar yr ochr dde, gan dy groesawu i’r adeilad a’th gynorthwyo ym mha ffordd bynnag y gallant.
Mae’r symud hwn wedi galluogi diweddariadau cyffrous ar gyfer y dyfodol a newidiadau i’r cyntedd, gan ei wneud yn bwynt canolog ar gyfer dy anghenion yn y llyfrgell!
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar wella dy amgylchedd awyr agored. Rydym wedi cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol ar y grisiau i Lawnt Fulton, ac rydym wedi gwella ardal Pwll Vivian, gan ei gweud yn ardal sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac sy’n hygyrch i’r holl fyfyrwyr ei mwynhau.
Rydym yn hynod falch o’n maes 3g newydd ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau Varsity eleni yn ein cyfleuster sydd o’r radd flaenaf a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu cyfle i ti lwyddo ym myd chwaraeon BUCS.
Cegin Harbwr
Cwblhawyd y gwaith o adnewyddu’r brif gegin yn Nhŷ Fulton yn gynharach yn yr haf! Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad pwysig iawn yn dy brofiad ar y campws. Mae’r gegin wedi’i thrawsnewid yn gegin fasnachol fodern lle gallwn greu bwydlenni cynaliadwy a chyffrous sy’n diwallu anghenion amrywiol ein cymuned ar y campws. Cymera gipolwg ar yr hyn sydd i’w gynnig yn Harbwr ar ap Uni Food Hub.
Gwybodaeth ddiweddaraf am deithio
Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ail-lansio Beiciau Santander yn fuan fel Beiciau Prifysgol Abertawe, a bydd dros 100 o feiciau newydd sbon yn cyrraedd 7 gorsaf ddocio ar draws y ddinas! Cadwa lygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol MyUni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y lansiad a gwybodaeth am aelodaeth.
Bydd amserlenni bws yn ystod y tymor 24/25 yn dechrau o ddydd Llun 30 Medi. Sylwer, yn ystod yr wythnos gyrraedd a Ffair y Glas, bydd amserlenni bws ar gyfer y cyfnod y tu allan i’r tymor ar waith. Gelli di weld nhw i gyd yma. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth bws, cliciwch yma.
Hefyd, cofia gael cipolwg ar ein tudalennau gwe dynodedig ar gyfer teithio i weld y cynnwys diweddaraf drwy gydol y flwyddyn.
NODYN ATGOFFA – Mae system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig (ANPR) yn gweithredu ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton, sy’n golygu nad oes modd i bobl nad ydynt yn ddeiliaid hawlenni barcio ar y campws rhwng 8am a 4pm.
Rhwng 4pm ac 8am o ddydd Llun i ddydd Gwener a thros y penwythnos, gall pobl nad oes ganddynt hawlenni parcio dalu i barcio gan ddefnyddio’r peiriannau talu ar y campws. Gall myfyrwyr brynu hawlenni parcio y tu allan i oriau craidd (nosweithiau a thros y penwythnos rhwng 4pm ac 8am drannoeth) am £20 y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth cer i’n tudalennau parcio.
Nodweddion newydd yn Canvas
Hoffem roi gwybod i ti am ychydig o nodweddion newydd a ddaeth i Canvas dros wyliau’r haf, gan gynnwys Chwilio Clyfar, Rhagenwau, Ynganu Enwau, a diweddariadau i Canvas Discussions.
Gelli di gael rhagor o wybodaeth yn ein canllaw ar y we, neu defnyddia’r dolenni testun uchod i fynd yn syth i nodwedd sydd o ddiddordeb i ti.
Sut caiff dy bresenoldeb a dy gyfranogiad ei fonitro yn ystod blwyddyn academaidd 24/25
Mae cydberthynas rhwng ymrwymiad a pherfformiad. Golyga hyn po fwyaf y byddi di’n ymrwymo i’th astudiaethau, y gorau y byddi di’n cyflawni. Caiff dy gyfranogiad ei fonitro’n bennaf drwy sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a drefnwyd a’th ddefnydd o ddeunyddiau cwrs yn Canvas.
- Os wyt ti’n dal fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr, caiff dy gyfranogiad ei fonitro drwy dy bresenoldeb mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn unig, o ganlyniad i ofynion y Swyddfa Gartref (Fisâu a Mewnfudo y DU).
- Bydd gan raglenni penodol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd broses wahanol sy’n seiliedig ar ddangos presenoldeb drwy sweipio cerdyn yn wythnosol oherwydd natur broffesiynol y rhaglenni. Bydd y staff academaidd ar gyfer eich rhaglen yn rhoi gwybod i chi os bydd eich presenoldeb yn cael ei fonitro drwy’r broses hon.
- Os wyt ti’n fyfyriwr cartref (DU) ac yn derbyn Cyllid Myfyrwyr, mae’n ofynnol i ti ymrwymo i’th astudiaethau ar gyfer dy ffioedd dysgu a’th fenthyciad cynhaliaeth ac mae’n ofynnol i’r Brifysgol adrodd am unrhyw ddiffyg presenoldeb i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
- Sylwer, yn wahanol i’r flwyddyn academaidd flaenorol, os nad wyt ti’n mynychu dy ddosbarthiadau wyneb yn wyneb, gall hyn arwain at gais i ti atal dy astudiaethau dros dro, yn dilyn cyfle i drafod hyn gyda dy Gyfadran.
Canllawiau’r Llyfrgell!
Diolch i dy adborth, rydym wedi gallu cyflwyno fersiwn newydd a gwell o ganllawiau Llyfrgell Prifysgol Abertawe, sy’n cynnwys rhyngwyneb sy’n cydweddu’n well â ffonau symudol, cronfa ddata Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol sy’n hawdd i’w chwilio, adnoddau gwell sy’n benodol i’r pwnc a llawer mwy! Darllena ragor am yr holl welliannau yn dy Gylchlythyr Myfyrwyr ar-lein.
Rydym bellach yn recriwtio Cynrychiolwyr Myfyrwyr newydd!
Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel ar draws y Brifysgol. Mae eu rôl yn cynnwys gwrando ar farn myfyrwyr, cyfleu’r farn hon i staff ac mewn cyfarfodydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr am ymatebion y Brifysgol.
Oes gen ti ddiddordeb? Gelli di ddod yn gynrychiolydd a helpu i gynrychioli myfyrwyr eraill. Mae hwn hefyd yn brofiad gwych i’w ychwanegu at dy CV.
Llenwa’r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb gan ddefnyddio manylion mewngofnodi dy gyfrif ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwn yn cysylltu â thi os bydd dy gais yn llwyddiannus.
Beth sydd ymlaen
Byddwn yn anfon cylchlythyr digwyddiadau atat ti’r wythnos nesaf ond, yn y cyfamser, gelli di weld beth sy’n digwydd ar dudalen we Beth sy’n digwydd Undeb y Myfyrwyr.
Angen gwybodaeth? Paid â phoeni! Anfona neges atom ar un o’n sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol isod, neu drwy e-bostio student-newsletter@abertawe.ac.uk a byddwn yn ymateb i’th gwestiwn.
Byddwn yn anfon ein cylchlythyr pythefnosol rheolaidd yn fuan!