Gall paratoi i astudio yn y brifysgol fod yn frawychus. Os wyt ti am wybod beth fydd dy gam nesaf, mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal gweithdy Croeso i’r Brifysgol i’th helpu i gael mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl, a’th dywys drwy awgrymiadau defnyddiol ar gyfer dy ddysgu. Yn ogystal ag ymagweddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fwyafu amser astudio a phrosesau, bydd yn cynnwys safbwyntiau gan fyfyrwyr ac adrannau gwahanol ar draws y sefydliad.
Gwahoddir myfyrwyr i’r digwyddiad ar-lein hwn a gynhelir ar Zoom o 10am tan 2pm
Amser a dyddiad: Dydd Mercher 18 Medi. 10:00 –2:00
Amlinelliad o’r Sesiwn:
10:00 – 10:45 – Cyflwyniad
10:45 – 11:45 – Awgrymiadau Astudio: Awgrymiadau i wneud yn fawr o’th ddysgu yn y brifysgol
11:45:12:00 Egwyl
12:15 – 1:15 – Trafodaeth panel myfyrwyr
1:15 – 2:00 – Cyflwyniad i’r Gwasanaethau Cymorth
Cofrestra drwy nodi dy gyfeiriad e-bost yma. (Anfonir dolen atat i ymuno â’r sesiwn drwy Zoom yn agosach at yr amser)