Mae gemau Rygbi Uwch BUCS yn golygu bod y Fyddin Werdd a Gwyn yn dod ynghyd ar ddydd Mercher i gefnogi tîm cyntaf y dynion i fuddugoliaeth, ac ni ddylech golli’r gêm gyntaf wrth i ni chwarae yn erbyn ein hen elynion i lawr y ffordd, Met Caerdydd!

Mae’r gêm hon yn cael ei chynnal ar faes Rygbi San Helen ar y 25ain o Fedi ac mae’r gic gyntaf am 6.30 yp.

Os ydych yn gefnogwr chwaraeon, neu eisiau dod ynghyd gyda rhai o’ch ffrindiau, dyma’r digwyddiad perffaith i gymdeithasu gydag aelodau eraill y Fyddin Werdd a Gwyn!