Wyt ti am wella dy ysgrifennu academaidd? Wyt ti am ddysgu sut i roi cyflwyniad gwych? Neu ddatblygu trefn astudio a fydd yn dy helpu i ffynnu? Dere draw i’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd ar ei newydd wedd – dy siop dan yr unto am bopeth sy’n ymwneud ag astudio.

Drwy gydol y tymor, mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal rhaglen lawn o dros 100 o weithdai gwahanol ar ystod eang o sgiliau astudio allweddol, gan gynnwys:

  • Sgiliau Microsoft
  • Datblygu Sgiliau Meddwl yn Feirniadol
  • Ysgrifennu Academaidd
  • Sgiliau Traethawd Estynedig
  • Sgiliau Cyflwyno
  • Uniondeb Academaidd
  • Defnyddio Deallusrwydd Academaidd
  • Mathemateg ac Ystadegau
  • Ysgrifennu Academaidd yn Gymraeg
  • a llawer, llawer mwy….

Caiff y gweithdai eu cynnal ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae, yn ogystal ag ar-lein. Clicia ar y ddolen isod i weld y rhestr lawn o weithdai a chadwa dy le.

Sylwer – bydd y dudalen Digwyddiadau bob amser yn dangos y gweithdai sydd ar gael dros y pythefnos nesaf.Rho lyfrnod ar gyfer y dudalen a gwiria’n rheolaidd i ddod o hyd i weithdai sy’n gallu dy helpu yn ystod y tymor.

Apwyntiadau wyneb-yn-wyneb

Gelli di hefyd drefnu apwyntiadau unigol gydag aelod o staff sy’n gallu cynnig cyngor ar dy waith academaidd.

Gelli di hefyd drefnu apwyntiadau unigol gydag aelod o staff sy’n gallu cynnig cyngor ar dy waith academaidd.

Clicia yma i drefnu apwyntiad

E-bost: academicsuccess@abertawe.ac.uk

Dere i ymweld â ni yn: Bloc y Stablau, Abaty Singleton, Campws Parc Singleton