Oes gen ti’r hyn sydd ei angen i wneud gwahaniaeth i dros 24,000 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe?
Oes gen ti’r hyn sydd ei angen i wneud gwahaniaeth i dros 24,000 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe?
Bob blwyddyn, mae Undebau Myfyrwyr ar draws y wlad yn ethol myfyrwyr presennol i arwain eu Hundebau. Mae tymor etholiadau’r hydref ar y gweill, ac rydym yn chwilio am swyddogion rhan-amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25!
Felly, os hoffet ti wneud newid cadarnhaol neu os wyt ti’n angerddol am wella profiad y myfyrwyr, dyma dy gyfle i gymryd rhan a lleisio dy farn!
Hoffet ti …
· Gynrychioli grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a lleisiau ar y cyrion?
· Sicrhau bod Prifysgol Abertawe’n rhywle lle mae POB myfyriwr yn perthyn?
· Meithrin profiadau cadarnhaol
· Teimlo’n rymus?
…ac wrth gwrs, gynnwys profiad ardderchog ar dy CV? Meddylia am eiriolaeth, cynllunio digwyddiadau, trefnu, rheoli amser, ymgysylltu.
Am bwy maen nhw’n chwilio?
· Swyddog Profiad Myfyrwyr Annodweddiadol
· Yr Amgylchedd a Moeseg
· Ysgrifennydd Cyffredinol
· Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol
· Swyddog LHDT+
· Swyddog Ymchwil Ôl-raddedig
· Swyddog Cynhwysiant Hil
· Swyddog Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsryweddol ac Anneuaidd
Bydd yr enwebiadau’n agor yn swyddogol ddydd Llun 23 Medi am 12pm. Gelli di enwebu dy hun neu ffrind a fyddai’n wych ar gyfer dy Undeb!
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn postio mwy o fanylion dros yr ychydig wythnosau nesaf drwy eu cyfryngau cymdeithasol, ond i gael mwy o wybodaeth edrycha ar ein tudalen Etholiadau yma.