Adnabod rhywun a fyddai’n mwynhau dysgu Cymraeg? Mae cyrsiau rhad ac AM DDIM ar gyfer pobl 18-25 oed yn dechrau gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn yr hydref.

Beth bynnag y rheswm dros ddysgu Cymraeg, mae digon o ddewis o gyrsiau ar gael. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://dysgucymraeg.cymru/18-25/ 

Mae cyrsiau Mynediad a Sylfaen yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos. Os dych chi wedi bod i ysgol Gymraeg neu’n siarad Cymraeg yn barod ac eisiau cryfhau eich sgiliau, mae cyrsiau ar lefelau dysgu eraill yn cael eu cynnal hefyd. Mae’r cyrsiau yma hefyd yn rhad ac am ddim os ‘dych chi’n 18-25 mlwydd oed. 

I weld ein llyfryn newydd a rhestr gyflawn o’n cyrsiau, cliciwch yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ebostio’r swyddfa: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk

 ‘Dyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yn y dosbarth!