Ydych chi eisiau ein helpu i wneud newid cadarnhaol ym Mhrifysgol Abertawe?
Llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb hon i wneud cais i fod yn un o’r Cynrychiolwyr eleni!
Felly, beth yn union yw Cynrychiolydd?
Yn syml, Cynrychiolwyr yw’r cyswllt rhwng ein myfyrwyr a’n staff, maent yn casglu adborth, yn mynychu cyfarfodydd ac yn ein helpu i ddylanwadu’n gadarnhaol ar bolisïau a phenderfyniadau yn Abertawe. Mae’n gyfle gwych i ymhelaethu ar eich CV, datblygu sgiliau a rhwydweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Gwnewch cais nawr am eich cyfle i wneud gwahaniaeth yn Abertawe!