Gweithio gydag Ymestyn yn Ehangach

Caiff Arweinwyr Myfyrwyr eu recriwtio i gynorthwyo’r Tîm Ymestyn yn Ehangach a’r Tîm Camu i Fyny i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc o’r ysgol gynradd i’r chweched dosbarth. Mae nifer o brosiectau a digwyddiadau a gynigir drwy’r Cynllun Arweinydd Myfyrwyr Ymestyn yn Ehangach y gallwch gymryd rhan ynddynt. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys: ymweliadau ysgolion cynradd, uwchradd a chweched dosbarthiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar y campws ac mewn ysgolion; gweithdai sgiliau astudio, clybiau ar ôl ysgol, ysgolion haf, dosbarthiadau meistr pwnc penodol a sesiynau rhagflas a chystadlaethau a gweithdai llythrennedd a rhifedd.

Manteision gweithio fel arweinydd myfyrwyr

  • Tâl hael yn cychwyn ar £12.00
  • Cyfle i gyflawni Gwobr Cyflogadwyedd ar lefel Efydd, Arian neu Aur ar gyfer eich HEAR.
  • Cyfle i gael profiad cyflogaeth gwerthfawr
  • Gwaith sy’n ffitio i’ch amserlen
  • Datblygu sgiliau a nodweddion sy’n gallu gwella eich CV, eich ffurflen gais a’ch ymateb i gyfweliad
  • Hyfforddiant am ddim