Yn ystod mis Hydref, mae PAPYRUS yn cynnal digwyddiadau HOPEWALK ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.  Mae Prifysgol Abertawe’n falch o gefnogi’r gwaith amhrisiadwy sy’n achub bywydau y mae Papyrus yn ei wneud ar gyfer pobl ifanc yn ein cymuned. 

 Yn y DU, mae mwy o bobl ifanc yn marw o hunanladdiad nag unrhyw achos arall: ein nod yw codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl ifanc i gael y cymorth y mae ei angen arnynt.

Mae Papyrus hefyd yn credu bod modd atal llawer o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc. Maen nhw’n gweithredu HOPELINE247, llinell gymorth gyfrinachol dros y ffôn, drwy negeseuon testun ac e-bost i bobl ifanc sydd â meddyliau am hunanladdiad neu bobl o unrhyw oedran sy’n pryderu am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.   Defnyddir pob £1 a godir i dalu am gyswllt â HOPELINE247 a allai achub bywyd.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni am ein taith gerdded i godi ymwybyddiaeth ac i gael pobl i siarad am hunanladdiad mewn pobl ifanc

Dyddiad:              Dydd Sul 13 Hydref 2024

Amser:                  10am

Dechrau a Gorffen:  The Secret Beach Bar and Kitchen, Heol y Mwmbwls, Abertawe, SA2 0AY. 

Taith gerdded am 3 milltir ar y traeth neu ar y llwybr wrth ymyl y traeth i Blackpill ac yn ôl (bydd y llwybr yn dibynnu ar y tywydd)