Ffair Ewch yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe’n dychwelyd i Gampws Singleton fis Hydref hwn. Ymunwch â’r tîm Ewch yn Fyd-eang i ganfod mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol cyffrous sydd ar gael. Nid oes rhaid i chi fod ar raglen blwyddyn dramor i gael profiad rhyngwladol. Mae ystod o gyfleoedd byr dymor dros yr haf, hyd yn oed i fyfyrwyr nad ydynt yn siarad iaith arall.

Meddyliwch am dreulio mis yn gwirfoddoli yn Fiji neu UDA, yn astudio yn Sbaen, neu yn dysgu am iaith a diwylliant De Corea….mae rhywbeth i bawb!

Bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang wrth law i siarad â chi am yr ystod eang o raglenni haf a’r cyllid hael sydd ar gael am gyfleoedd rhyngwladol (nid yw ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn olaf).

Galwch heibio Creu Taliesin ar Gampws Parc Singleton rhwng 3yh a 5yh dydd Mawrth 22ain o Hydref.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau gwe neu e-bostiwch y tîm Astudio Dramor.