Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Arddangosfa Hanes Pobl Dduon eleni’n canolbwyntio ar y thema Adennill y Naratif. Rydym yn eich gwahodd i ymgysylltu â’r thema bwysig hon drwy gyflwyno eich gwaith celf sy’n dathlu hanes, diwylliant a hunaniaeth Pobl Dduon.
Mae’r arddangosfa’n gyfle i archwilio sut mae cymunedau Duon, y gorffennol a’r presennol, wedi cymryd rheolaeth o’u straeon, wedi ailffurfio eu hunaniaethau, ac wedi ymwrthod â’r naratifau pennaf. P’un ai drwy addysg, hanes, celf, actifiaeth, neu brofiadau pob dydd, rydym yn eich annog i ddehongli’n greadigol y thema hon, drwy amlygu safbwyntiau personol, diwylliannol neu ryngwladol.
Pwy sy’n gallu cyflwyno?
Yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
Beth i gyflwyno?
Gwaith celf unrhyw gyfrwng (peintio, ffotograffiaeth, celf ddigidol, cerfluniau, etc.)
Dyddiad cau?
27 Hydref 2024
Sut i gyflwyno?
E-bostiwch lun o’ch cyflwyniad i inclusivity@abertawe.ac.uk
Bydd y gweithiau a ddewisir yn cael eu harddangos fel rhan o’n Harddangosfa Mis Hanes Pobl Dduon, yn Llyfrgell Campws Singleton o 31 Hydref tan 30 Ionawr, ac yn y Twyni ar Gampws y Bae o 4 Chwefror tan 30 Ebrill 2025.
Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at ddathliad ystyrlon o hanes a diwylliant pobl dduon. Efallai eich bod yn artist profiadol neu’n rhywun sy’n newydd i’r byd creadigol, beth bynnag yw eich cefndir, rydym yn eich annog i gymryd rhan.