Mae croeso cynnes i chi ddod i’r drafodaeth banel “Adennill y Naratif”, sy’n nodi lansio ein Harddangosfa Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon a’n hymrwymiad i’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.

Ymunwch â chyd-fyfyrwyr a staff wrth i ni sgwrsio’n ystyrlon am adennill storïau, herio ystrydebau a chreu cymunedau cynhwysol.

Peidiwch â cholli’r cyfle pwysig hwn i fod yn rhan o’r drafodaeth ac ymuno â’n taith at gynhwysiant.

Manylion y digwyddiad

31 Hydref 2024
Amser: 2pm – 4pm
Lleoliad: Ystafell y Rhodfa Taliesin, Campws Singleton