Gwahoddir i chi fynychu cwrs Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a ddarperir gan Gymorth Iechyd Meddwl BAME (BMHS) mewn partneriaeth ag Academi Cynwysoldeb Abertawe. Mae’r hyfforddiant AM DDIM hwn ar y campws yn gyfle ardderchog i wella eich dealltwriaeth o iechyd meddwl ac ennill sgiliau gwerthfawr i gefnogi eich hun ac eraill.
Drwy gwblhau’r cwrs hanner diwrnod hwn byddwch yn:
- Ennill dealltwriaeth sylfaenol o iechyd meddwl a strategaethau i herio stigma.
- Dysgu am faterion iechyd meddwl cyffredin a sut i gynnal eich lles.
- Datblygu hyder i gefnogi eraill a all fod mewn trallod.
- Derbyn tystysgrif presenoldeb, wedi’i gymeradwyo gan Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru a Lloegr.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 25 o gyfranogwyr felly peidiwch â cholli’r cyfle gwerthfawr hwn!
Am gwestiynau pellach, e-bostiwch Inclusivity.
Dyddiad: 30 Hydref, 2024
Amser: 1-4pm
Lleoliad: Campws Singleton