Oeddet ti’n gwybod bod gan y Brifysgol bolisïau i wella dy brofiad dysgu?
Rydym wedi bod yn gwrando ar adborth ac yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ddiweddaru ein polisïau a gosod disgwyliadau clir i fyfyrwyr.
Y Polisi Asesu, Marcio ac Adborth
Rydym wedi gwneud newidiadau pwysig i’n Polisi Asesu, Marcio ac Adborth er mwyn gwella effeithiolrwydd y broses asesu ac adborth ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae’r polisi wedi cael ei ddiwygio’n ddiweddar mewn perthynas â’r wybodaeth ganlynol:
- Rydym wedi diweddaru’r polisi i sicrhau safonau mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol. Erbyn hyn mae gan y Brifysgol bolisi arbennig ar gyfer Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Asesiadau Myfyrwyr.
- Rydym wedi llunio canllawiau clir ynghylch sut caiff asesiadau eu marcio, gan gynnwys sylw penodol i farciau modiwl sy’n agos at ffiniau graddau (e.e. marciau â 9 ar y diwedd)
- Rydym wedi diwygio iaith y polisi i hyrwyddo cynhwysiant hiliol yn fwy effeithiol, gan sicrhau cysondeb â’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.
- Ar gyfer myfyrwyr ar raglenni cydweithredol, mae’r polisi’n egluro y gallant dderbyn marciau wedi’u dilysu gan y sefydliad partner cydweithredol. Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau partner, bydd amserau cyflwyno yn ystyried gwahaniaethau rhwng cylchfaoedd amser, ac ni fydd dyddiadau cyflwyno yn cael eu pennu pan fydd y sefydliad partner ar gau. Hefyd, fel arfer bydd asesiadau’n cael eu marcio, eu cymedroli a’u hadolygu’n allanol yn yr iaith y cânt eu cyflwyno ynddi.
- I wella cymorth ar gyfer cyflwyno yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill, mae’r polisi’n egluro y bydd unrhyw waith a gyflwynir yn y Gymraeg neu mewn iaith arall yn cael ei farcio yn yr iaith y caiff ei gyflwyno ynddi ac ni chaiff ei gyfieithu i’r Saesneg oni bai nad oes unrhyw ateb arall ar gael. Rydym hefyd wedi diweddaru’r canllawiau yn: Asesu yn Gymraeg/Mewn Iaith Arall – Prifysgol Abertawe.
Y Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
Mae’r Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu wedi cael ei ddiweddaru hefyd er mwyn eglurder. Sylwer, nid yw recordiadau o ddarlithoedd yn cymryd lle mynd i’r ddarlith ei hun, ond gallant gael eu defnyddio i gyfoethogi a chefnogi gweithgareddau mewn sesiynau addysgu. Fel arfer, dim ond recordiadau ar gyfer dy fodiwlau neu dy raglenni di fydd ar gael i ti.