Diolch i’ch adborth, rydym yn falch o rannu newyddion am wasanaeth Unibws!
Yn dilyn sesiwn grŵp defnyddwyr bws yn ddiweddar, mae eich pryderon ac adborth wedi cael eu clywed, ac mae First Bus yn gwneud newidiadau cadarnhaol i wella eich profiad teithio.
Bydd yna cynnydd yn amlder y bysiau cynnar ar rwydwaith Unibws. Gallwch weld amserlenni diwedderaf yma.
Gwasanaethau Ychwanegol yn y Bore:
- Gwasanaeth 92 ychwanegol o Singleton i Gampws y Bae yn rhedeg o 07:10, ac yn cyrraedd am 07:50.
- Gwasanaeth 91 ychwanegol o Singleton i Gampws y Bae yn rhedeg o 07:13 – 07:58.
- Gwasanaeth 92 ychwanegol o Gampws y Bae i Singleton yn rhedeg o 07:25 – 08:04.
- Gwasanaeth 91 ychwanegol o Heol Christina (llety myfyrwyr Coppergate) i Gampws y Bae trwy True/Roost o 08:20.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu gwasanaethau mwy rheolaidd a dibynadwy i’ch helpu i gyrraedd eich darlithoedd ar amser yn y bore.
Cofiwch os ydych chi’n teithio o lety True/St. David’s, bod gwasanaethau hefyd ar gael am 08:10, 09:10, a 09:13 o ddydd Llun i ddydd Gwener, sy’n dechrau’n wag o lety True/St. David’s.
Diolch eto am eich mewnbwn i’r ffurflen ‘Dywedwch Wrthym Am Deithio’ ac i’r rhai ohonoch a fynychodd y sesiwn ‘Grŵp Defnyddwyr Bws’ ar 10 Hydref. Gallwn ddweud yn hyderus bod y newidiadau hyn wedi cael eu dylanwadu gan eich adborth amhrisiadwy ac wedi’u gwneud yn uniongyrchol o ganlyniad iddo.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser neu os hoffech ddweud wrthym am eich profiadau teithio, defnyddiwch y ffurflen ‘Dywedwch Wrthym Am Deithio’.
Mae ein sessiwn Grŵp Defnyddwyr Bws nesaf ar y pumed o Rhagfyr. Ystadau a Gwasanaethau Campws