Yr hyn yr ydym ei eisiau: Lluniau (a dynnwyd gennych chi) sy’n ymwneud a’n thema – y thema y blwyddyn yma yw ‘Heddwch’. Ysgrifennwch bennawd byr yn egluro pam y dewisoch chi’r llun hon a sut mae’n gysylltiedig a’r thema

Rheolau a gwobrau: Dylai eich llun fod yn un o ansawdd uchel, heb fod yn llai na 1.5 MB o ran maint. Rhaid iddi fod yn ddelwedd wreiddiol, nid yn un a gafwyd o rywle arall. Mae taleb gwerth £25 i’w hennill!

Cyflwynwch eich gwaith cyn 5pm ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024, trwy’r opsiynau isod:

Sut i gymryd rhan trwy’n gyfryngau cymdeithasol:

  • Llwythwch eich llun i Facebook neu Instagram:
  • Tagiwch ni @campuslifesu neu @bywydcampws
  • Defnyddiwch yr hashnod #InterFaithWeek
  • Os nad yw’ch enw’n glir yn eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol, cofiwch ei gynnwys yn y disgrifiad o’r ddelwedd
  • Gallwch anfon y ddelwedd atom trwy DM (Neges Uniongyrchol) os hoffech

Sut i gymryd rhan trwy e-bost:

  • Anfonwch eich e-bost at faith.campuslife@swansea.ac.uk
  • Defnyddiwch y pennawd “Wythnos Rhyng-ffydd, Cystadleuaeth Ffotograffiaeth’
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw a theitl eich gwaith yn eich cyflwyniad!