Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd ar gyfer Cymdeithas mis Hydref! Gan ystyried amrywiaeth yr enwebiadau ardderchog a theilwng, a chyda chynifer o gymdeithasau anhygoel ar waith eleni, mae hi wedi bod yn her anodd i Undeb y Myfyrwyr eu beirniadu.

Ond, heb oedi ymhellach, yr enillydd yw……..UniBoob!

Nod cymdeithas UniBoob yw codi ymwybyddiaeth o addysg am ganser y fron, ochr yn ochr â’r elusen, CoppaFeel. Mae’r tîm yn ymroddedig i godi arian ac ymwybyddiaeth o’r elusen anhygoel hon drwy ddigwyddiadau llawn hwyl ac ymgyrchoedd codi arian.

Mae Cymdeithas UniBoob wedi gweithio’n hynod ddiwyd y mis hwn ar y cyd â chymdeithasau chwaraeon megis Criced y Menywod a bydd yn mae’r gymdeithas wedi cyflwyno annerch yn ei Diwrnod Menywod blynyddol/tymhorol sy’n esbonio pwysigrwydd gwirio eich bronnau.

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn JC’s gan gynnwys noson karaoke, cwis tafarn a noson meic agored, er mwyn codi arian i CoppaFeel.

Yn ogystal â’i ymdrechion anhygoel i godi arian, mae’r tîm hefyd wedi rhagori ar ei darged o annog 20 o bobl i gofrestru ar gyfer ei grŵp sgwrsio lle mae’n rhannu gwybodaeth am wirio’ch bronnau ac ymwybyddiaeth o ganser y fron. Mae gan y Gymdeithas dros 87 o aelodau eisoes!

Llongyfarchiadau, UniBoob! Parhewch i ledaenu’r neges bwysig o wirio’ch bronnau a chodi ymwybyddiaeth o CoppaFeel.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu ymuno ag UniBoob, ewch i’w dudalen Undeb y Myfyrwyr. Gallwch chi hefyd ddilyn y tîm ar Instagram i fod yn ymwybodol o’i holl ddigwyddiadau a’i weithgareddau codi arian sydd ar ddod!

Mae gan eich Undeb y Myfyrwyr dros 150 o gymdeithasau gwahanol i chi gymryd rhan ynddynt felly nid oes rhaid i chi ddewis un ohonynt yn unig. Mae cymdeithasau diwylliannol, cymdeithasol sy’n seiliedig ar hobïau neu ddiddordebau, ynghyd â chymdeithasau sy’n seiliedig ar gyrsiau hefyd. Gallwch chi gael gwybodaeth amdanynt a chymryd rhan drwy fynd i wefan Undeb y Myfyrwyr.