Mae Prifysgol Abertawe’n eich gwahodd i arddangosfa newydd, Adennill Naratifau, yn unol â’r thema ar gyfer Dathlu Hanes Pobl Ddu  eleni. Taith ymdrochol a llawn ysbrydoliaeth i hunaniaeth, treftadaeth a diwylliant i ddathlu Hanes Pobl Ddu yng Nghyntedd y Llyfrgell ar Gampws Singleton. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys straeon a phrofiadau ein cymuned academaidd, gan amlygu cyfraniadau gan fyfyrwyr a staff .  

Lansiwyd yr arddangosfa gyda thrafodaeth banel dreiddiol yn cynnwys y Cynghorydd Patience Bentu, Dr Emmanuel Siaw, Sheila Agyei-Afari, Tumi Ajulo, a Dr Vivian Osuchukwu, wrth i bob un ohonynt rannu eu myfyrdodau personol ar eu teithiau mewn Addysg Uwch ac yn y gymuned leol.  

Cafodd arddangosfa Adennill Naratifau ei churadu gan fyfyrwyr a’i chefnogi gan Theresa Ogbekhiulu o Academi Cynwysoldeb Abertawe, Dr Dawn Bolger, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o’r Ysgol Gwyddor Gymdeithasol, a Emily Hewitt o Richard Burton Archives. Mae’n arddangos casgliad diddorol o waith celf, arteffactau diwylliannol a ffotograffau, gan greu lle ar gyfer myfyrio a deialog ar themâu sy’n ganolog i dreftadaeth, hunaniaeth a pherthyn.   

Mae’n cyd-fynd â nodau’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol i hyrwyddo cynwysoldeb a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ac anghydraddoldebau hiliol.  Gall ymwelwyr archwilio naratifau hanesyddol a chyfoes, gan gynnwys hanes llawn ysbrydoliaeth llywydd Du cyntaf Undeb Myfyrwyr Abertawe a deunyddiau archifol sy’n cofnodi cyfraniadau a straeon myfyrwyr Du dros y blynyddoedd, a deunyddiau Windrush a gyfrannwyd gan Gyngor Hil Cymru.    

Gyda mwy na 30 o weithiau gafaelgar, o baentiadau a mosaigau i decstilau, bywgraffiadau a ffotograffiaeth ddigidol, mae pob darn yn hyrwyddo myfyrio ac yn annog archwilio â meddwl agored.   Cynhelir yr arddangosfa yn Llyfrgell Campws Singleton tan 30 Ionawr 2025 ac wedyn bydd yn parhau yn y Twyni ar Gampws y Bae o 4 Chwefror tan 30 Ebrill, 2025.  Diolchwn i’n holl artistiaid a gyfrannodd eu gwaith, gan gynwwys Antoinette Sylva, Ebube Okoli, Nyaradzo Chabata, Marco Verow, a Dunni Olisa. 

 Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch ag Academi Cynwysoldeb Abertawe.