Mae Darlith Flynyddol Richard Burton yma unwaith eto, ac mae croeso i bob myfyriwr ymuno â ni ar gyfer noson gyffrous ac archwiliadol yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin.

Mae Darlith Flynyddol Richard Burton yn rhan o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau dan arweiniad Prifysgol Abertawe a daw’r ddarlith eleni ar adeg gythryblus i ddiwydiant traddodiadol yn ne Cymru, wrth i’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot ymdopi â’r argyfwng parhaus.

Os ydych chi eisiau dysgu rhagor am hanes, presennol a dyfodol diwydiannau traddodiadol ledled de Cymru, dyma’ch cyfle i wneud hynny! Mae’r ddarlith yn rhad ac am ddim, a byddem yn eich annog i gofrestru gyda’ch ffrindiau, eich cyd-fyfyrwyr, eich rhieni neu unrhyw un arall a hoffai ddatblygu eu dealltwriaeth ymhellach.

Geraint Talfan Davies fydd ein prif siaradwr am y noson. Mae ef yn awdur ac yn ddarlledwr sydd â hanes hirhoedlog ym maes polisi cyhoeddus a’r celfyddydau yng Nghymru.

Ymunwch â ni am noson gofiadwy wrth i ni archwilio ‘The Soul of Iron’: The Pasts and Futures of Merthyr and Port Talbot, Nos Iau 28 Tachwedd, 6pm – 7pm.