Sylw i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws yn y gymuned! O’r 2il o RAGFYR bydd newidiadau i’ch gwasanaeth casglu biniau, a bydd eich bagiau gwastraff du na ellir eu hailgylchu nawr yn cael eu casglu ar ‘wythnosau gwyrdd’, gyda gwastraff gardd bellach yn cael ei gasglu ar ‘wythnosau pinc’!
* NI fydd unrhyw gasgliadau gwastraff gardd rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 28 Chwefror 2025. Cesglir gwastraff gardd ar eich wythnos binc pan fydd y casgliadau ymyl y ffordd yn ailgychwyn (o 3 Mawrth).
Os ydych chi’n derbyn eich casgliad wythnos WERDD yr wythnos sy’n dechrau 2 Rhagfyr:
- yr wythnos sy’n dechrau 2 Rhagfyr: wythnos werdd NEWYDD (sachau gwyrdd, sachau du, bin bwyd)
- yr wythnos sy’n dechrau 9 Rhagfyr: wythnos binc NEWYDD (sach binc, bin bwyd)
- yr wythnos sy’n dechrau 16 Rhagfyr: wythnos werdd NEWYDD (sachau gwyrdd, sachau du, bin bwyd)
Calendr casgliadau wythnos 2 – os yw eich casgliad gwyrdd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 2 Rhagfyr
Os ydych chi’n derbyn eich casgliad wythnos BINC yr wythnos sy’n dechrau 2 Rhagfyr:
- yr wythnos sy’n dechrau 2 Rhagfyr: wythnos binc (sach binc, sach ddu, bin bwyd)
- yr wythnos sy’n dechrau 9 Rhagfyr: wythnos werdd NEWYDD (sachau gwyrdd, sachau du, bin bwyd)
- yr wythnos sy’n dechrau 16 Rhagfyr: wythnos binc NEWYDD (sach binc, bin bwyd)
Bydd eich gwastraff dal i gael eu casglu ar eich diwrnod casglu arferol.
Os ydych yn defnyddio biniau ailgylchu olwynog, bydd dim newid.