Ni fydd y fewnrwyd nac e:Vision ar gael o Dydd Llun 25 Tachwedd, wrth i’r gwasanaeth cofnodion myfyrwyr gael ei uwchraddio.
Mae hyn yn golygu hefyd na fyddwch yn gallu gweld eich cofnod myfyriwr na gofyn am newidiadau iddo, gweld eich statws ariannol yn y Brifysgol na gwneud taliadau ar-lein am ffioedd neu lety.
Ni fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno Amgylchiadau Esgusodol trwy E:vision yn ystod y cyfnod lle fydd y system i lawr.
Mae MyUniHub a thimau cymorth eraill yn dibynnu ar wasanaethau’r rhyngrwyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor cywir i chi, felly gall colli’r gwasanaeth olygu na fyddwn yn gallu ateb rhai ymholiadau mor gyflym ag arfer.
Byddwn yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau nad oes modd eu hateb ar 25 Tachwedd ar 26 Tachwedd. Peidiwch ag ail-anfon eich e-bost oherwydd gall hyn ddyblygu gwaith ac arafu ymatebion gan y tîm.
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch ITServiceDesk@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 604000.
Mae Gwasanaethau TG yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.