Mae ein Polisi Di-fwg yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd diogel ac iach i’n myfyrwyr, ein staff ac ymwelwyr i’w fwynhau.

Gallwch ond ysmygu neu fepio mewn mannau penodol, dynodedig ar Gampws y Bae a Singleton. Gwaherddir ysmygu neu fepio mewn mannau eraill ar y campws a gall greu risgiau tân, iechyd a diogelwch sylweddol. Mae ein Tîm Diogelwch ac Ymateb Campws yn patrolio’r ardaloedd hyn yn rheolaidd a gweddill y campws er mwyn sicrhau bod pethau’n rhedeg yn ddiogel ac yn hwylus.

Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr a staff i ymgyfarwyddo â threfniadau’r Polisi Prifysgol Ddi-fwg sydd ar gael ar y wefan.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad!