Mae Clinig y Gyfraith Abertawe’n falch o gynnig Clinig Cyngor ar Anafiadau Personol, a gyflwynir mewn partneriaeth â chwmni o Lundain, Hodge, Jones and Allen. Clinig Anafiadau Personol Prifysgol Abertawe – Prifysgol Abertawe

Bydd y Clinig Anafiadau Personol yn cynnig apwyntiadau cyngor anafiadau personol cyfrinachol 30 munud am ddim i aelodau’r cyhoedd gydag aelod o dîm Anafiadau Personol Hodge Jones & Allen. Caiff hyn ei gefnogi gan ymgynghorwyr myfyrwyr Clinig y Gyfraith Abertawe.

 Bydd y Clinig yn gallu helpu aelodau o’r cyhoedd gyda:

  • Damweiniau Traffig Ffyrdd gan gynnwys honiadau yn ymwneud â cherddwyr, beicwyr, beicwyr modur, a dulliau eraill o deithio
  • Damweiniau yn y Gwaith
  • Damweiniau mewn Mannau Cyhoeddus
  • Damwain ac Anaf Angheuol
  • Anafiadau a achosir gan gynhyrchion diffygiol
  • Anafiadau Difrifol a Chymhleth megis anafiadau pen, trychiadau, anafiadau llinyn asgwrn y cefn ac anafiadau orthopedig a seiciatrig difrifol
  • Hawliadau Llosgiadau, Sgaldio a Dychryn
  • Anaf Deintyddol
  • Anaf i’r Llygaid
  • Anhwylder Straen Wedi Trawma

 

Mae apwyntiadau ar gael ar:

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 3pm tan 5pm

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024 3pm tan 5pm

Dydd Mawrth 4ydd Chwefror 2024 3pm tan 5pm

Dydd Mawrth 4ydd Mawrth 2024 3pm tan 5pm

Dydd Mawrth 1 Ebrill 2024 3pm tan 5pm

I ymholi am apwyntiad, e-bostwch lawclinic@swansea.ac.uk gyda’ch manylion cyswllt (gan gynnwys eich rhif ffon)