Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’ch diwrnod graddio ar gampws godidog Campws y Bae. Dyma rai awgrymiadau am deithio cyn dy ymweliad!
Rydym yn awgrymu dy fod yn neilltuo digon o amser i gyrraedd ac ymgyfarwyddo â’th amgylchoedd. Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1.5 awr cyn eich cynulliad.
Oes gennyt gwestiwn neu ymholiad? Edrycha ar ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth neu gelli di gysylltu â’n tîm graddio a fydd yn hapus i dy helpu di.
Teithio mewn car
Bydd parcio ar gael yn safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian. Bydd angen i chi dalu £1 wrth gyrraedd y maes parcio, yna bydd bysiau moethus a bysiau hygyrch yn eich cludo i Gampws y Bae ac yn ôl.
Rhowch ‘Fabian Way Park and Ride’ i mewn i ap mapiau eich ffôn, neu SA1 8LD i mewn i’ch ‘Sat Nav’.
Bydd bysiau’n rhedeg drwy gydol y dydd, ac mae’r daith yn cymryd tua 10 munud (yn ddibynnol ar draffig). Gallwch weld amserlen y bws yma.
Bydd y bws cyntaf yn dychwelyd i safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian unwaith i’r seremoni gyntaf orffen, tua 10.45am.
Sylwer, nid oes maes parcio ar gael ar Gampws y Bae, mae hyn yn beth arferol i’n staff a’n myfyrwyr.
Mae Uber yn gweithio yn Abertawe bellach; mae’r gwasanaeth adnabyddus hwn sydd ar gael ar alwad yn barod i’th wasanaethu, yn ogystal â’th ddarparwyr tacsis cymeradwy lleol arferol.
Teithio ar y trên neu’r bws
Mae’n cymryd tua 15 munud i gyrraedd Campws y Bae mewn car o orsaf drenau Abertawe ac o’r orsaf fysiau.
Mae gan Abertawe orsafoedd trenau a bysiau â chysylltiadau da sy’n cynnwys llawer o lwybrau ledled Abertawe, Cymru, y Gororau, Manceinion a de Lloegr.
Map graddio
Ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl? Defnyddia ein Map Graddio newydd i ymgyfarwyddo â chyffiniau dy ddigwyddiad!
Mae’n hawdd llywio’r map rhyngweithiol hwn ac mae’n gallu tawelu dy feddwl cyn y diwrnod mawr.
Yn aros dros nos?
Os wyt ti’n ystyried aros dros nos cyn a/neu ar ôl dy seremoni, beth am aros ar ein Campws y Bae?
Dyma opsiwn ardderchog i ti a’th ffrindiau a/neu dy deulu archebu llety diogel a chyfarwydd, wrth fwynhau mynediad uniongyrchol at ein traeth hardd.
Cynaliadwyedd
Fel rhan o’n Strategaeth Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd, rydym yn annog yr holl raddedigion i ystyried opsiynau teithio sy’n ddiogel ac sydd o les i’r amgylchedd. Gelli di ddarllen rhagor am ein gwaith yma.
Oes angen i ti storio dy fagiau?
Mae gan Gyngor Abertawe gyfleusterau storio bagiau sydd ar gael i’w defnyddio drwy siop Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Gellir dod o hyd i gostau, oriau agor a rhagor o wybodaeth yma.