Mae’r neges ganlynol ar gyfer myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ffurfiol yn ystod cyfnod asesu mis Ionawr 2025 yn unig (os wyt ti’n fyfyriwr yn Y Coleg, neu’n cael dosbarthiadau gyda’r Coleg, a wnei di wirio dy amserlen asesu’n fanwl drwy dy lwybrau arferol). Os na fyddi di’n sefyll arholiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn, gelli di anwybyddu’r e-bost hwn.

Mae fersiwn bersonol o’th amserlen arholiadau mis Ionawr 2025 bellach ar gael drwy’r fewnrwyd.

I weld dy amserlen:

  1. Mewngofnoda i’th gyfrif MyUni.
  2. Dewisa’r eicon ‘Mewnrwyd’.
  3. Dylai dolen i’th amserlen arholiadau fod ar gael ar dy broffil Cofnod Myfyriwr (o dan dy ffotograff).

Darllena dy amserlen yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr holl arholiadau rwyt ti’n disgwyl eu sefyll wedi’u rhestru.

I fyfyrwyr sy’n cael darpariaethau ychwanegol (ac rydyn ni’n cael ffurflenni ganddyn nhw cyn 3 Rhagfyr 2024), caiff dy amserlen bersonol ei diweddaru erbyn dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024 gan gynnwys lleoliad dy ddarpariaethau a manylion cryno’r trefniadau amdanyn nhw.

Os oes gennyt unrhyw anawsterau gweld dy amserlen arholiadau neu os wyt ti’n credu bod dy amserlen yn anghywir, cysyllta â’r Swyddfa Arholiadau cyn gynted â phosib. Bydd aelod o’r tîm yn gallu dy gynorthwyo.

Cyfarwyddiadau’r Arholiad

Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr ymgyfarwyddo â’r cyfarwyddiadau canlynol cyn sefyll arholiadau ar y safle.

Gweld cyfarwyddiadau’r arholiad yma.

Amgylchiadau Esgusodol

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr, a all eu rhwystro rhag cyflwyno gwaith cwrs neu ymgymryd ag asesiadau.

 Os na elli di baratoi ar gyfer asesiadau neu ymgymryd ag asesiadau oherwydd yr anawsterau hyn, gelli di gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol drwy e:Vision. Hefyd, mae angen i ti roi gwybod i Dîm Profiad a Dîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr dy Gyfadran neu dy Ysgol cyn gynted â phosib. Lluniwyd y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i ddeall beth dylech ei wneud os ydych yn profi anawsterau personol neu amgylchiadau esgusodol sydd yn eich barn chi’n effeithio ar eich astudiaethau.

Gwybodaeth Gyffredinol am Arholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ymholiadau, gweler tudalennau’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn ystod eich arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.

Hoffem achub ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau a’ch arholiadau!