Hoffem eich hysbysu, ar ôl cwblhau’r gwaith trwsio ar y system wresogi ardal, fod gwres wedi’i adfer ar Gampws Singleton.

Sylwch, er bod y system bellach yn weithredol, bydd y gwresogi llawn ar draws y campws yn cychwyn 29 Tachwedd. Tan hynny, bydd y system yn parhau i sefydlogi ac efallai na fydd yn gwresogi pob ardal yn llawn.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y gwaith trwsio.

Ystadau a Gwasanaethau Campws