Mae eich undeb, prifysgol ac SOS-UK yn cynnal arolwg byr a chyfrinachol gyda myfyrwyr i ddarganfod eich barn a’ch profiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyffuriau nac yfed alcohol i gymryd rhan. Mae’r holl ymatebion yn gwbl gyfrinachol.

I ddiolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg hwn, mae gennych gyfle i ennill gwobr ariannol o £100 neu un o bum gwobr ail orau o £50!

Dylai’r arolwg gymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Y dyddiad cau i gymryd rhan yw 8 Rhagfyr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud.