Mae graddio’n prysur agosáu, felly dyma’r hyn gelli di ei ddisgwyl ar y diwrnod mawr!

Rydym hefyd am achub ar y cyfle hwn i gadarnhau eich presenoldeb yn seremonïau graddio’r gaeaf hwn! Bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi derbyn eich canlyniadau ddoe. Mae eich canlyniadau bellach yn cadarnhau eich presenoldeb yn y seremoni raddio. Os cafodd eich dyfarniad ei gadarnhau eisoes cyn ddoe, cafodd eich presenoldeb ei gadarnhau ar adeg eich canlyniadau. Llongyfarchiadau i chi i gyd, ddosbarth 2024!

 Cam 1 – Cyrraedd (Campws y Bae)

Cofia wisgo dy ddillad mwyaf smart a chyrraedd mewn steil! Rydyn ni’n argymell cyrraedd awr a hanner cyn dechrau dy seremoni.

Gall diwrnod Graddio fod yn eithaf prysur, felly mae’n bwysig caniatáu digon o amser! Ti’n gwybod beth maen nhw’n dweud – os wyt ti’n gynnar, ti ar amser.

Gan ddibynnu ar sut byddi di’n teithio i Gampws y Bae, bydd angen i ti ystyried hyn wrth amseru a chynllunio dy daith.  Dyma’r holl wybodaeth deithio bydd ei hangen arnat ti.

Rydyn ni hefyd yn argymell cael cipolwg ar ein Map Graddio rhyngweithiol i’th helpu i baratoi cyn cyrraedd.

 Cam 2 – Cofrestru, Tocynnau Gwesteion a Gynau (Y Coleg)

Y cyrchan cyntaf yw adeilad Y Coleg, a bydd angen i ti fynd yno’n bersonol i gofrestru. Byddi di’n gallu casglu:

  • Dy gerdyn cofrestru.
  • Dy ddau docyn am ddim i westeion (os wyt ti wedi archebu e-docynnau o’r blaen, paid â phoeni byddwn ni nawr yn rhoi tocynnau papur i ti).
  • Dy dystysgrif gradd.

Cofia gadw dy gerdyn cofrestru’n ddiogel, bydd ei angen arnat ti wrth gymryd dy sedd yn dy seremoni.

O fan hyn gelli di gasglu dy gwn. Gwna’n siŵr fod dy e-bost cadarnhau archeb gan Ede & Ravenscroft wrth law i gyflymu’r broses (yr un â’r côd QR ynddo!).

 Cam 3 – Ffotograffiaeth (Y Twyni)

Bydd tîm o ffotograffwyr proffesiynol o Tempest ar gael i ddiwallu dy holl anghenion ffotograffiaeth! Does dim angen archebu ymlaen llaw, dim ond galw heibio ar y dydd. Gelli di drefnu i gael dynnu lluniau cyn dy seremoni neu ar ei hôl, cofia wisgo dy gwn.

Rhagor o wybodaeth am yr holl gynnyrch a phrisiau. Gelli di gael tynnu dy lun ar dy ben dy hun a/neu gyda’th anwyliaid.

 Cam 4 – Dy Seremoni (Y Neuadd Fawr)

Bydd y drysau’n agor 30 munud cyn amser dechrau dy seremoni. Gofynnir i’r holl fyfyrwyr a gwesteion fod yn eu seddau 15 munud cyn amser dechrau’r seremoni. Mae’n bwysig dy fod yn cadw at yr amserau hyn.

I westeion sydd heb docyn, mae ffrwd fyw ar gael yn ystafell GH043  y Neuadd Fawr.

Gwylia ein fideo eglurhaol i’th helpu i wybod beth i’w wneud ar y llwyfan.

 Cam 5 – Dathlu ar ôl y Seremoni (y Guddfan)

Dere draw i’r Guddfan (cyn neu ar ôl) dy seremonïau am dy holl anghenion dathlu!

 Yr ychwanegiad cyffrous newydd hwn at ein seremonïau yw dy borth i nwyddau graddio, waliau lluniau, prynu diodydd dathlu, y Tîm Cyn-fyfyrwyr, yr Academi Cyflogadwyedd, astudiaethau ôl-raddedig pellach, ffotograffiaeth ar y llwyfan a lluniau o’r seremoni i’w lawrlwytho a llawer mwy!

 Mae diwrnod graddio’n ddathlu dy waith caled a’th gyflawniadau. Cofia gymryd yr amser i fwynhau’r foment a dathlu gyda’r rhai hynny a fu’n dy cefnogi ar hyd y ffordd.

Oes gennyt gwestiwn neu ymholiad? Edrycha ar ein tudalennau gwe i gael mwy o wybodaeth neu gelli di gysylltu â’n tîm graddio a fydd yn hapus i’th helpu ti.

Edrychwn ymlaen at dy groesawu.