Rydym yn gyffrous i gyhoeddi newyddion gwych i bob myfyriwr. Yr wythnos hon rydym yn agor dau orsaf docio newydd ar gyfer Beiciau Prifysgol Abertawe yn Neuadd y Ddinas Abertawe ac yn Orsaf Fysiau Abertawe.
Mae gennym bellach 100 o feiciau a chwe gorsaf docio i chi eu defnyddio i deithio rhwng y campysau ac ar draws y ddinas am ddim ond £10 y flwyddyn.
Y chwe gorsaf yw:
- Campws y Bae
- Parcio a Theithio Fabian Way
- Gorsaf Fysiau Abertawe
- Neuadd y Ddinas Abertawe
- Campws Parc Singleton
- Ystumllwynarth, Y Mwmbws
Gallwch weld y lleoliadau ar ein map Teithio Actif yma.
Cofrestrwch nawr gyda’ch cyfeiriad e-bost @swansea.ac.uk ar wefan neu ap Nextbike.
Rydym yn chwilio am mwy o leoliadau cyfleus yn Abertawe i ehangu’r cynllun. Os oes gennych awgrym neu os hoffech rannu’ch profiadau beicio yma yn Abertawe, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen Dywedwch wrthym am Deithio.