Dim ond un wythnos sydd i fynd tan eich seremoni raddio yn ein Neuadd Fawr eiconig ar Gampws y Bae. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi a’ch gwesteion i’r achlysur arbennig hwn sy’n rhan o’ch taith gyda ni yn y Brifysgol.
Wythnos yn unig sydd i fynd nes y byddwch yn croesi’r llwyfan. Byddwch chi’n barod i wynebu’r dyfodol yr ydych chi wedi gweithio mor galed i’w ddatblygu. Mae’r garreg filltir hon yn dyst i’ch ymroddiad, eich gwydnwch a’ch gwaith caled. O’ch diwrnod cyntaf ar y campws hyd at eich arholiadau terfynol, rydych wedi datblygu, dysgu a dyfalbarhau, gan adael eich ôl ar ein cymuned.
Ond cyn i’r dathliadau gychwyn, roeddem eisiau bachu ar y cyfle hwn i’ch atgoffa am yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch cyn y diwrnod mawr. Dyma’ch tudalen gyngor ar gyfer eich diwrnod graddio!
Beth i'w wneud ar y diwrnod
Gwybodaeth am deithio
Eich amser ar y llwyfan
Lluniau'r llwyfan
Trysorwch yr eiliad am byth gyda llun o’r llwyfan neu drwy lawrlwytho’r seremoni.
Ydych chi eisiau 10% oddi ar eich ffotograffiaeth ar y llwyfan adeg graddio?
Cliciwch yma i gwblhau ein harolwg cyflym iawn a byddwn yn rhoi gostyngiad o 10% yn awtomatig ar unrhyw bryniannau a wnewch yn bersonol ar y diwrnod neu ar ôl y digwyddiad trwy ein gwefan.
Lluniau proffesiynol
Ar ôl y seremoni
Llyfryn graddio
Ystafell y ffrwd fyw
Mae diwrnod graddio’n ddathlu dy waith caled a’th gyflawniadau. Cofia gymryd yr amser i fwynhau’r foment a dathlu gyda’r rhai hynny a fu’n dy cefnogi ar hyd y ffordd.
Oes gennyt gwestiwn neu ymholiad? Edrycha ar ein tudalennau gwe i gael mwy o wybodaeth neu gelli di gysylltu â’n tîm graddio a fydd yn hapus i’th helpu ti.