Bydd rhai ohonoch chi’n sefyll arholiadaul ym mis Ionawr a hoffem rannu’r wybodaeth ddefnyddiol hon â chi i’ch helpu i baratoi a theimlo bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Amserlenni

Mae fersiwn bersonol o’ch amserlen arholiadau mis Ionawr 2025 bellach ar gael drwy’r fewnrwyd.

Teithio

I’ch helpu i gyrraedd eich arholiadau am 9.30am neu 14.00pm mewn da bryd, bydd First Bus yn cynnig bysus ychwanegol ar gyfer gwasanaethau 90, 91 a 92 o ddydd Llun 6 Ionawr tan ddydd Gwener 24 Ionawr. Gallwch weld yr amserlenni yma.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma.

Lleoliadau Arholiadau

Ddim yn siŵr ble mae’ch arholiad yn cael ei gynnal? Mae mapiau’r campws yn yr ap FyAbertawe yn cynnig cynllun rhyngweithiol a manwl o holl gampysau’r Brifysgol.  Gan gynnwys lleoliadau adeiladau, mannau o ddiddordeb, lleoliadau arholiadau, cyfeiriadau a hidlwr categorïau i fireinio’r hyn rydych yn chwilio amdano!

Boed yn fannau cymdeithasol, yn fannau astudio neu’n lleoliadau i gael gwybodaeth a chymorth.

Cyrsiau am ddim i'ch helpu i baratoi ar gyfer asesiadau

Gall y cyfnod asesu fod yn heriol, ond gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ddarparu awgrymiadau ac adnoddau astudio defnyddiol i ti sy’n canolbwyntio ar fireinio dy sgiliau, fel dy fod ti’n dod yn ddysgwr mwy effeithiol. Mae amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu, megis Sgiliau Astudio Hanfodol ac Ysgrifennu Academaidd.

Wyt ti am gael gwybodaeth fwy cryno? Cymera gipolwg ar ein blog awgrymiadau astudio!

Gallwch fenthyg gliniadur neu ddefnyddio cyfrifiadur personol!

Wyddech chi fod gennym liniaduron sydd ar gael i chi eu benthyg o lyfrgelloedd Campws Parc Singleton a Champws y Bae? Os bydd angen i chi fenthyg gliniadur cyn arholiadau, ewch draw i dudalennau gwe’r llyfrgell i gael gwybod sut i wneud hyn. Mae’r broses yn syml.

Mae digon o gyfrifiaduron pen desg ar gael i chi eu defnyddio ar y ddau gampws. Gallwch neilltuo rhai ohonynt, a gallwch ddefnyddio rhai heb eu cadw ymlaen llaw. Ceir rhagor o wybodaeth yma. Gallwch gael mwy o wybodaeth am oriau cyfrifiaduron y tu allan i oriau swyddfa ar ein tudalen we Mannau Astudio.

Students talking in a cafe with a laptop on the table

Mannau astudio i fyfyrwyr

P’un a ydych chi’n chwilio am rywle tawel i astudio, eisiau cydweithio fel grŵp neu am rywle i ymlacio a gorffwys yn unig, mae gennym ddigon o leoedd i chi ar y campws.

I bori ein mannau i fyfyrwyr, cliciwch yma.

Cymorth a chyngor

Mae gennym y peth delfrydol i’th helpu i baratoi ar gyfer cyfnod yr arholiadau sydd ar ddod! Mae gan Hapus, ein Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr ar-lein, lwyth o awgrymiadau a gwybodaeth i’th helpu i gynllunio dy amserlen astudio, osgoi gohirio gwneud pethau, ac ymdopi â straen ac ansicrwydd. Gelli di gyrchu Hapus yma.

Mae gan Undeb y Myfyrwyr Ganolfan Cyngor a Chymorth annibynnol, a bydd y tîm ar gael i fyfyrwyr alw heibio yn ystod y cyfnod asesu.

Student talking with a counsellor

Gwybodaeth Gyffredinol am Arholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ymholiadau, gweler tudalennau’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn ystod eich arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.

Hoffem achub ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau a’ch arholiadau!