Wrth i’r semester fynd yn ei flaen a’r nos yn dod yn gynt, rydym ni am gymryd eiliad i siarad am rywbeth pwysig – sef cyrraedd adref yn ddiogel – p’un a ydych chi’n dychwelyd adref yn dilyn noson allan, yn gorffen eich sifft yn y gwaith, neu’n dilyn sesiwn astudio yn y llyfrgell.

Dyma ychydig o bethau i’ch atgoffa o sut y gallwch chi gyrraedd adref yn ddiogel:

Clowch y drysau!

Cofiwch gloi eich drysau a’ch ffenestri pan fyddwch chi’n mynd allan, a pheidiwch â gadael unrhyw eitemau drud mewn golwg os yw’ch ystafell ar y llawr gwaelod. Os oes gennych glo ar ddrws eich ystafell wely, clowch hwnnw hefyd. Gallwch ddod o hyd i gyngor arbenigol ar atal troseddau gan Heddlu De Cymru yma.

Mewn undod y mae nerth

Os ydych chi’n mynd allan gyda ffrindiau, beth am greu cynllun i aros mewn cysylltiad drwy gydol y noson. Gallech chi hyd yn oed creu grŵp WhatsApp i’w ddefnyddio drwy gydol y noson. Mae creu system bydi yn sicrhau na fydd neb yn cael ei adael.

Byddwch yn wyliadwrus

Arhoswch mewn ardaloedd wedi’u goleuo, gan osgoi cymryd y llwybr byr drwy fân-lwybrau, a dylech chi ymddiried yn eich greddf. Os na fydd rhywbeth yn teimlo’n dda, peidiwch ag oedi wrth ofyn am help.

Os ydych chi’n mynd allan i Stryd y Gwynt, mae’r Man Cymorth sydd ym maes parcio’r Strand ar agor ar nos Fercher a nos Sadwrn, rhwng 10pm a 3am. Os oes angen cymorth meddygol arnoch, os ydych chi’n colli eich ffrindiau, neu os ydych eisiau archebu tacsi o fan diogel, gall y staff yn y Man Cymorth eich helpu!

Ewch ar y Bws

Peidiwch â cherdded adref ar eich pen eich hun! Mae’r N91 a’r N92 yn wasanaethau gyda’r nos. Am ragor o wybodaeth ac i wirio llwybr y bysiau ac amledd y gwasanaethau, ewch i wefan bysiau First Cymru.

Defnyddiwch dacsi cofrestredig

Os oes angen i chi fynd adref mewn tacsi, ceisiwch rannu â ffrindiau. Dylech chi hefyd:

  • Gymryd llun o’r bathodyn sy’n dangos rhif cofrestru’r tacsi, gan ddefnyddio eich ffôl symudol.
  • Eistedd y tu ôl i’r gyrrwr os ydych chi ar eich pen eich hun.
  • Ceisio rhannu’r daith â myfyrwyr eraill rydych chi’n eu hadnabod.
  • Peidio â mynd i mewn i gerbyd oni bai bod gan y gyrrwr dau fathodyn hunaniaeth sy’n cyfateb i’w gilydd; un yn y tacsi ar flaen y dangosfwrdd, ac un mae gyrrwr y tacsi yn ei wisgo.
  • Dylai fod yn gyrrwr yn unig, a dim teithwyr eraill eisoes yn y tacsi.
  • Dylai’r mesurydd fod yn weladwy, gyda phris y cytunir arno ar gyfer y daith.
  • Peidiwch byth â mynd i gerbyd oni bai eich bod chi’n sicr mai Tacsi Swyddogol yw e.

Mae rhagor o wybodaeth a rhifau ffôn ar gael yma.

Batris llawn!

Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn mynd allan, rhag ofn y bydd angen i chi ei ddefnyddio’n annisgwyl. Os oes gennych chi fanc pŵer ychwanegol, rhowch ef yn eich poced rhag ofn y bydd eich batri’n mynd yn fflat.

Lawrlwythwch SafeZone

Mae’r ap defnyddiol hwn yn cynnig mynediad ar unwaith i chi at ein tîm diogelwch drwy eich ffôn symudol. Mae’n rhwydd lawrlwytho’r ap ac mae’n rhoi mynediad ar unwaith i chi at swyddogion diogelwch ar y campws ac mae ein tîm yn gymwys ac yn brofiadol fel ymatebwyr cyntaf.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau gweddill y semester. Cadwch yn ddiogel a gofalwch am ein gilydd!

For more information, handy contacts and tips to stay safe during your time at University, visit our Staying Safe in Swansea page.

Stay safe and look out for one another!