Gofynnir i fyfyrwyr yn Abertawe fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, oherwydd gall yr haint arwain at ganlyniadau difrifol iawn.

Gall pen tost, twymyn, chwydu, gwddf anystwyth, teimlo’n gysglyd, casáu goleuadau llachar, weithiau gyda brech nad yw’n diflannu pan bwysir arni â gwydr, i gyd fod yn arwyddion o haint bacterol meningococol, sy’n gallu arwain at heintiau difrifol fel sepsis.

Mae’n syniad da bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd meningococol, a amlinellir isod.

Llid yr ymennydd

  • Tymheredd uchel
  • Taflu i fyny
  • Cur pen difrifol
  • Gwddw stiff
  • Ddim yn hoffi golau llachar
  • Dryswch / deliriwm
  • Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded

Septisemia

  • Tymheredd uchel
  • Taflu i fyny
  • Cleisio / brech
  • Anadlu’n gyflym
  • Poen yn y cymalau / cyhyrau
  • Dryswch / deliriwm
  • Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded

Gall un neu fwy o’r symptomau hyn ddatblygu a gallant ymddangos mewn unrhyw drefn.

Gall fod yn anodd adnabod clefyd meningococol i ddechrau oherwydd gall fod fel achos gwael o ffliw. Eto i gyd, gall unrhyw un sydd ag IMD fynd yn ddifrifol wael o fewn ychydig oriau.

Dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu GIG 111 am gyngor os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd eich hun neu iechyd ffrind. Os yw’r symptomau’n gwaethygu, ceisiwch gymorth meddygol brys yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf neu drwy ddeialu 999.

Gall triniaeth brydlon achub bywyd. Rhowch wybod iddynt eich bod wedi derbyn y llythyr hwn.

Galw Iechyd Cymru- 0845 46 47 (24 awr)

Meningitis Now– 0808 80 10 388 (24 awr)