Wrth i dymor yr hydref ddod i ben, hoffem ddymuno gwyliau Nadolig hapus a heddychlon i chi. Hoffem hefyd eich atgoffa y bydd y rhan fwyaf o wasanaethau’r Brifysgol ar gau dros gyfnod y Nadolig.

Er mwyn eich galluogi i gynllunio ymlaen llaw, gweler yr wybodaeth isod am oriau agor ar gyfer gwasanaethau a chymorth allweddol y Brifysgol sydd ar gael dros wyliau’r Nadolig.

Y Llyfrgell ac adeiladau'r Brifysgol

Bydd yr holl adeiladau ar Gampws y Bae a Champws Singleton (ac eithrio’r llyfrgelloedd) ar agor tan 17.00 ddydd Llun 23 Rhagfyr, a byddant yn ail-agor eto ddydd Iau 2 Ionawr am 8am.

Mae yna newidiadau wedi’i gwneud i oriau agor y Llyfrgelloedd dros adeg y Nadolig. Gwiriwch nhw yma.

Trafnidiaeth gyhoeddus dros dymor yr ŵyl

Bydd First Cymru yn gweithredu llai o wasanaethau dros gyfnod y Nadolig o ddydd Llun 16 Rhagfyr i ddydd Llun 6 Ionawr. Gallwch weld yr amserlenni yma. Bydd amserlen y tymor yn ailddechrau ddydd Llun 6 Ionawr.

Bydd (U1) bysus gwennol Parcio a Theithio sy’n rhedeg rhwng Campws y Bae a safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian yn gorffen ddydd Gwener 13 Rhagfyr am 18.48pm, ac yn ailddechrau ddydd Llun 6 Ionawr am 07.40am.

I gael mwy o wybodaeth am deithio ar y bws dros gyfnod y Nadolig, edrychwch ar wefan First Cymru, ac i gael gwybodaeth am y trenau, ewch i Trafnidiaeth i Gymru i drefnu eich taith.

Wyddech chi fod gwasanaethau bws yn Abertawe am ddim bob penwythnos cyn y Nadolig? Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Cymorth llesiant

Er y bydd gwasanaethau’r Brifysgol ar gael am oriau cyfyngedig dros y gwyliau, mae rhestr isod o adnoddau i’ch helpu os bydd gennych anawsterau yn ystod y cyfnod hwn.

    Cymorth mewn argyfwng

    Gobeithiwn yn fawr na fyddwch mewn sefyllfa frys dros gyfnod y gwyliau, fodd bynnag mae manylion am beth i’w wneud mewn argyfwng yma.

    Bydd ein Gwasanaethau Diogelwch yn parhau i weithredu ar y campws ddydd a nos yn ystod y cyfnod hwn, gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 01792 604 271 neu ddefnyddio ap Safezone.

    MyUniHub a Desgiau Gwybodaeth Cyfadrannau

    Bydd MyUniHub, ynghyd â thimau Gwybodaeth Gwyddoniaeth a Pheirianneg a Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, yn gweithredu gwasanaeth o bell ar 23 Rhagfyr.

    Yna bydd pob desg ar gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig ac yn ailagor ar 2 Ionawr.

    Ar gyfer ymholiadau MyUniHub, edrychwch ar ein tudalennau gwe am ragor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin.

      Mannau arlwyo ar y campws

      Gyda llai o bobl ar y campws ar yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd llai o wasanaethau yn ein mannau arlwyo o ddydd Llun 15 Rhagfyr tan 8.00am ddydd Iau 2 Ionawr. Edrychwch ar ein tudalennau gwe arlwyo i gael manylion llawn y mannau penodol.

      I gael mwy o wybodaeth am ein cynigion dros yr ŵyl, dilynwch @Swansea Uni Food ar Instagram, neu ewch i un o’n mannau arlwyo ar y campws i gael coffi llaeth taffi cnau neu panini twrci!

      Diffodd offer dros y Nadolig

      Helpwch ni i arbed ynni ar y campws y Nadolig hwn. Cyn i chi adael am y gwyliau, byddwch yn siŵr i gau’r holl ffenestri, gwirio bod eich gliniaduron, monitorau sgrîn, rheiddiaduron a chyfarpar nad yw’n angenrheidiol wedi’u diffodd.

      Darllenwch ein hawgrymiadau gorau i gael Nadolig cynaliadwy.

        Academi Cyflogadwyedd Abertawe

        Bydd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ar gau dros gyfnod y Nadolig, dydd Llun 23 Rhagfyr nes dydd Gwener 3 Ionawr.

        Caiff unrhyw ymholiadau a anfonir at fewnflychau cyffredinol neu fewnflychau’r staff yn ystod y cyfnod hwnnw eu hateb cyn gynted â phosibl ar ôl dydd Llun, 6 Ionawr.

        Os oes angen cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd arnoch yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer helaeth o adnoddau ar gael, yma.

        Cyfleusterau chwaraeon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe

        I barhau â’ch nodau chwaraeon a ffitrwydd, gallwch weld oriau agor Parc Chwaraeon Bae Abertawe, sy’n cynnwys Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru, Campfeydd Campws y Bae a Singleton a’r Ganolfan Athletau a Hoci.

        Bydd yr holl gyfleusterau chwaraeon ar gau 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr. Bydd Campfa Singleton a Phwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn gweithredu oriau llai o 27 i 31 Rhagfyr, nes bod gwasanaeth arferol yn ailddechrau ar gyfer yr holl gyfleusterau ddydd Iau 2 Ionawr.

          Ddesg Gwasanaeth TG

          Bydd y Ddesg Gwasanaeth TG yn darparu cymorth ffôn cyfyngedig rhwng hanner 8 o’r gloch yn y bore i hanner 4 o’r gloch yn y prynhawn am y dyddiadau canlynol: 24ain, 27ain, 30ain a 31ain o Ragfyr.

          Bydd cymorth ffôn yn ailddechrau ar yr 2il o Ionawr 2025, rhwng 8 yn y bore i 5 yn y prynhawn. Bydd y desgiau galw heibio ar gael yn ystod y cyfnod hwn.

          Byddwn yn ailagor y desgiau ar y 6ed o Ionawr 2025 am ein horiau a dyddiadau arferol

          Dymuniadau gorau ar gyfer gwyliau’r Nadolig.