Wrth i’r misoedd oerach nesáu, rydyn ni’n meddwl am eich lles. Mae’r llyfrgell bellach yn cynnig blancedi clyd i chi eu benthyca yn ystod eich sesiynau astudio. Os ydych chi’n rhy oer neu eisiau ychydig o gysur, mae ein blancedi yma i wneud eich amser yn y llyfrgell hyd yn oed yn well.
Hawdd cael gafael arnynt
Gallwch fenthyg blanced o’r ddesg wybodaeth y llyfrgell. Codwch un wrth i chi ddod i mewn a’i dychwelyd wrth i chi fynd allan. Mor syml â hynny! Mae’r blancedi hyn ar gael i bawb sydd am deimlo ychydig bach yn fwy cynnes wrth astudio.
Benthycwch, peidiwch â chadw
Cofiwch fod y blancedi hyn wedi’u darparu i’w benthyca yn unig. Maent wedi’u bwriadu i gael eu rhannu ac ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae nifer cyfyngedig o flancedi ar gael, ac os ydych yn eu cadw, ni fydd digon ar gael i eraill. Benthycwch flanced tra byddwch yn y llyfrgell, a’i dychwelyd i’r ardal ddynodedig pan fyddwch yn gadael.
Mae eich adborth yn bwysig
Daeth y penderfyniad i ddarparu’r blancedi hyn o’ch adborth chi. Rydyn ni yma i wella eich profiad o’r llyfrgell ac mae’r rhaglen blancedi yn un ffordd rydyn ni’n gwneud hyn. Nid yw’r blancedi hyn yn lle gwresogi, ond yn ateb ar gyfer yr adegau hynny pan fo’r gwres mewn adeilad hŷn efallai’n anghyson neu’n anodd ei reoli. Eich cysur chi yw ein blaenoriaeth ni.