Wyt ti wedi mwynhau dy amser yn Abertawe ac am barhau i ddatblygu dy arbenigedd a dy sgiliau? Wel, mae newyddion gwych! Rydym yn falch iawn o allu cynnig opsiwn carlam i astudio un o’n graddau ôl-raddedig sy’n dechrau ym mis Medi 2025!

Sut i wneud cais?

Yn ddiweddar, rydym wedi lansio system cyflwyno ceisiadau newydd.Os hoffech gael y cyfle i ddefnyddio ein hopsiwn cyflwyno cais Carlam, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

1. Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau sydd ar gael ar Lwybr Carlam.

2. O’r dudalen cwrs berthnasol (Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir – Prifysgol Abertawe), cliciwch ar y botwm Ymgeisio a dilynwch y cyfarwyddiadau i gyrraedd tudalen cyflwyno cais Porth Dysgwyr Prifysgol Abertawe.

3. Dylai fod gennych gyfrif Porth Dysgwyr i gwblhau cais:

  • Deiliaid cyfrif – mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair i greu cyfrif Porth Dysgwyr;
  • Myfyrwyr heb gyfrif – gallwch greu cyfrif fel defnyddiwr newydd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau cofrestru cam wrth gam.

4. Llenwch y ffurflen gais. Fel myfyriwr presennol Prifysgol Abertawe

  • ni fydd yn rhaid i chi anfon trawsgrifiad atom na geirda neu ddatganiad wedi’i gwblhau o ran pam rydych am barhau â’ch astudiaethau gyda ni;
  • bydd angen i chi lanlwytho dogfen Word wag o dan ‘Datganiad Personol’ a ‘Geirda’ â’r teitl ‘Llwybr Carlam 2025’. Ni fydd y system yn gadael i chi gyflwyno eich cais heb ddogfen wedi’i hatodi.
  • yn ‘sut clywsoch chi am y cwrs’, dewiswch ‘Rwyf eisoes yn fyfyriwr yn Abertawe’.

Mae’n hawdd cyflwynApply nowo cais a byddwch yn derbyn cynnig o fewn 2 ddiwrnod gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau)!

Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais am Lwybr Carlam o fis Medi 2025, nid oes angen i chi gyflwyno cais arall drwy ein porth newydd. Byddai hyn ond yn angenrheidiol os ydych yn penderfynu gwneud cais am gyrsiau ychwanegol.