Eleni, mae mynediad gostyngol i’r ras ar gael i fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Pris mynediad gostyngol yw £30 a chaiff y swm hwnnw ei ad-dalu i unrhyw unigolyn sy’n cyrraedd ei darged codi arian o £250 ar gyfer ein hymgyrch Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.
Sylwer ar y pwyntiau canlynol:
- Rhaid defnyddio’r ffurflen isod i gadw lle am ffi ostyngol: Cofrestriad 2025 – Swansea University
- Unwaith y byddwch wedi cadw eich lle, byddwn yn ymdrechu i anfon eich dolen unigryw atoch o fewn 24 awr, felly cadwch lygad am e-bost gan Eventrac.
- Rhaid i’r holl gyfraniadau gael eu lanlwytho i’ch tudalen JustGiving erbyn 30/06/25 er mwyn bod yn gymwys i gael ad-daliad am y ffi mynediad.
- Mae Rhodd Cymorth yn gymhelliad treth yn y Deyrnas Unedig sy’n galluogi elusennau i adennill 25c o bob £1 a gyfrannir gan drethdalwyr heb unrhyw gost ychwanegol i’r trethdalwyr. Yn ôl dull cyfrifo JustGiving, nid yw cyfraniadau Rhodd Cymorth yn cyfrannu at gyrraedd eich targed o £250. Dim ond cyfraniadau uniongyrchol gaiff eu cyfrif wrth benderfynu a yw rhywun yn gymwys ar gyfer ad-daliad y ffi mynediad a gwobrau eraill.
- Caiff ad-daliadau eu gwneud i’r holl godwyr arian cymwys o fewn pythefnos ar ôl dyddiad cau derbyn y cyfraniadau (30/06/2025).
- Anfonwch unrhyw gwestiynau i making-strides@abertawe.ac.uk a bydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn ateb eich ymholiad cyn gynted â phosibl.