Rydym yn cynnig dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu i fyfyrwyr cymwys i gynorthwyo tuag at gostau teithio.

Bydd angen i fyfyrwyr newydd a’r rhai sy’n parhau gael eu hasesu i gadarnhau eu bod yn wynebu caledi ariannol drwy ein proses cyflwyno cais i fod yn gymwys ar gyfer y Taliad Cymorth Teithio.

Mae’r Taliad Cymorth Teithio yn cynnig hyd at £400.00 fesul blwyddyn academaidd i gyfrannu tuag at un o’r isod:

  • Tocyn bws blynyddol/tymhorol
  • Costau petrol (*meini prawf cymhwysedd yn berthnasol)

Mae nifer cyfyngedig o Daliadau Cymorth Teithio ar gael ar gyfer 24/25 felly dyfernir taliadau ar sail y cyntaf i’r felin.

Cymhwysedd:

I fod yn gymwys i gyflwyno cais am y Taliad Cymorth Teithio, mae’n rhaid i ti fodloni’r meini prawf isod:

  • Rwyt ti’n fyfyriwr newydd / myfyriwr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol
  • Nid wyt ti wedi derbyn costau am deithio drwy gais blaenorol i’r Gronfa Galedi
  • Rwyt ti ar gwrs amser llawn / rhan-amser ac yn derbyn yr holl gyllid sydd ar gael i ti
  • Rwyt ti’n wynebu caledi ariannol ac yn fodlon ymgymryd ag asesiad ariannol o’th amgylchiadau a darparu tystiolaeth ategol
  • Os wyt ti’n cyflwyno cais am gostau petrol, mae’n rhaid dy fod yn gofrestredig ar gwrs sy’n gofyn i ti ddefnyddio car (e.e. graddau sy’n gofyn i ti deithio i leoliad gwaith, megis Nyrsio). Gall disgresiwn gael ei ddefnyddio os oes angen car ar fyfyriwr yn sgîl anabledd neu gyfrifoldeb gofalu, a chadarnhawyd hynny gan y tîm Cyfranogiad@BywydCampws.

Tystiolaeth Angenrheidiol

Os wyt ti’n teimlo dy fod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a hoffet ti gyflwyno cais, gelli di ddod o hyd i’r ddolen i’r dudalen we i wneud cais isod: 

Gwnewch gais yma

Dewisa’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr, yna clicia’r opsiwn ‘Taliad Cymorth Teithio’ o’r gwymplen.

Bydd angen i ti ddarparu’r isod i gefnogi dy gais:

  • Llythyr hawl i Gyllid Myfyrwyr sy’n dangos dy fod yn derbyn cyllid llawn.
  • Cyfriflenni banc ar gyfer dy HOLL gyfrifon banc/cymdeithas adeiladu/cynilion/ISA.